Gemau'r Gymanwlad: Baton y Frenhines wedi glanio

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun, Glaniodd yr awyren o Belffast ychydig cyn 11:00
Disgrifiad o’r llun, Cafodd Baton y Frenhines ei drosglwyddo i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon John Griffiths AC

Mae Baton y Frenhines wedi glanio ym Maes Awyr Caerdydd ac yn dechrau ei daith trwy Gymru ar gymal diweddaraf y siwrne i Glasgow ar gyfer Gemau'r Gymanwlad.

Glaniodd yr awyren o Belffast ychydig cyn 11:00.

Ar y tarmac i dderbyn y Baton oedd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon John Griffiths AC.

Dywedodd Mr Griffiths: "Rwy'n falch o groesawu Baton y Frenhines i Gymru, ac yn wir i dir mawr Prydain.

"Mae'n briodol bod y baton yn cyrraedd Caerdydd, cartref y Gemau cyntaf i gynnal ras gyfnewid Baton y Frenhines, cyn iddo barhau â'r daith o amgylch Cymru.

"Nid yn unig mae'r Baton yn rhoi Cymru yn sylw'r byd gan ddangos ein treftadaeth ddiwylliannol a'r angerdd am chwaraeon, ond mae'n caniatáu i ni fynd â'r Gemau i'n cymunedau."

Gemau'r Ymerodraeth - rhagflaenydd Gemau'r Gymanwlad - yng Nghaerdydd yn 1958 oedd y tro cyntaf i ddigwyddiad Baton y Frenhines gael ei gynnal.

Roedd y baton a ddefnyddiwyd yn 1958 yng Nghaerdydd fore Sadwrn i gwrdd â'r un newydd.

Teithiodd y baton wedyn ar y bws i Six Bells yn Sir Fynwy lle bydd gweddill y daith yn dechrau.

Dau o'r rhedwyr cyntaf i gario'r baton yno oedd Joseph Price a Luke Rees. Llwyddodd Mr Price i osgoi trychineb pwll glo Six Bells yn 1960 ac roedd yn un o'r bobl fu'n rhan o'r ymdrech i achub glowyr ar y diwrnod.

Mae wedi treulio 40 mlynedd ers hynny yn codi arian i nifer o elusennau.

Mae Luke yn un o lysgenhadon ifanc Six Bells.

Aeth Baton y Frenhines ymlaen i Lyn Ebwy, ac fe gafodd ei hebrwng am gyfnod gan fand lleol cyn parhau gyda'r daith tuag at Dredegar.

Yng Nglyn Ebwy fe gafodd y baton ei gyflwyno i faer y dref, Bernard Willis, ger swyddfeydd newydd Cyngor Blaenau Gwent.

Disgrifiad o’r llun, Daeth torf allan i'r glaw i groesawu'r baton i Six Bells
Disgrifiad o’r llun, Joseph Price, 82 oed, gyda Luke Rees yn gwylio
Disgrifiad o’r llun, Roedd nifer o blant ardal Six Bells hefyd yn cario'r baton
Disgrifiad o’r llun, Cafodd y baton ei hebrwng i Lyn Ebwy gan fand lleol

Wrth gyrraedd, dywedodd Is-Lywydd Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad, Chris Jenkins: "Mae'n wych bod yn ôl yng Nghymru ac roedd yn anrhydedd cael cludo'r baton o Ogledd Iwerddon.

"Mae'r croeso yn Six Bells a Glyn Ebwy wedi bod yn wych, a'r torfeydd yn anferth. Mae'n argoeli'n dda ar gyfer yr wythnos i ddod ac yn dangos cefnogaeth ardderchog i Dîm Cymru cyn y Gemau."

Roedd awyrgylch parti yn y Ganolfan Chwaraeon yng Nglyn Ebwy, ac fe gafodd y dorf eu hysbrydoli gan berfformiad o 'Calon Lân' gan Gôr Meibion Cendl.

Disgrifiad o’r llun, Maer Glyn Ebwy, Bernard Willis, a'i ferch Kym Lewis yn derbyn y baton
Disgrifiad o’r llun, Y criw fu'n cario'r baton y tu allan i Ganolfan Chwaraeon Glyn Ebwy

Draw i Dredegar wedyn, ac un o'r rhai fu'n cario Baton y Frenhines yno oedd Mark Colbourne - enillydd nifer o fedalau Paralympaidd yn Llundain a Beijing.

Gyda'r glaw yn cilio fe ddaeth cannoedd o bobl i groesawu'r baton i Barc Bedwellte, ac wrth annerch y dorf yno, dywedodd Maer Tredegar, Ryan Watkins ei fod yn ddiwrnod "balch iawn" i'r dref.

Disgrifiad o’r llun, Enillydd medalau aur Paralympaidd Mark Colbourne yw un o'r rhai fu'n cario'r baton ger Tredegar
Disgrifiad o’r llun, Sarah Gratton oedd un gafodd gludo'r baton yn Nhredegar
Disgrifiad o’r llun, Gyda'r glaw'n cilio daeth cannoedd i groesawu'r baton i Barc Bedwellte ger Tredegar
Disgrifiad o’r llun, Hwn oedd belt Howard Winstone wnaeth ennill medal aur yn Gemau'r Ymerodraeth

Fe fydd y baton yn cael ei arddangos ym Merthyr Tudful nos Sadwrn mewn gornest focsio arbennig rhwng Cymru a'r Alban, ac fe fydd teulu'r bocsiwr enwog o Ferthyr, Howard Winston, yn cario'r baton newydd a'r un gwreiddiol o 1958 i mewn i'r neuadd.

Ddydd Sul bydd y baton yn ail ddechrau ei daith trwy Gymru ym Mharc Aberdâr, ac yn gorffen yr ail ddiwrnod yn Llandrindod.

Bydd yn teithio 731 milltir ( 1,176 km ) o gwmpas Cymru yn ystod yr wythnos ac yn ymweld â llefydd megis maes Eisteddfod yr Urdd, copa'r Wyddfa a chwt cychod Dylan Thomas.

Gadawodd y baton Balas Buckingham ar Hydref 9 y llynedd, gan ymweld â phob gwlad yn y Gymanwlad ar y ffordd i Glasgow.

Mae hynny'n golygu y bydd y baton wedi teithio 118,000 o filltiroedd drwy 71 o wledydd mewn saith mis erbyn i'r gemau ddechrau.

Ar ôl mynd drwy gymoedd y de bydd y baton yn troi tua'r gogledd drwy Landrindod i faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Y Bala.

Yna bydd yn mynd i Sir Gâr a Sir Benfro cyn anelu am Fachynlleth a'r gogledd orllewin, gan gynnwys Caernarfon, Ynys Môn, Y Rhyl a Rhuthun.

Yn Sir Benfro bydd y Baton yn mynd o Balas yr Esgob yn Nhyddewi a drwy dir y gadeirlan, lle bydd yn cael ei fendithio gan Esgob Tyddewi.

Bydd y baton yn gorffen cymal Cymreig y daith yn Sir Ddinbych,

Disgrifiad o’r llun, Roedd Baton y Frenhines gwreiddiol o 1958 hefyd yng Nghaerdydd

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol