URC i gynnal Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Roedd David Moffett yn gyfrifol am newid trefn rygbi rhanbarthol yn ystod ei gyfnod fel prif weithredwr

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud y bydd Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol wedi iddyn nhw dderbyn cais gan y nifer angenrheidiol o glybiau.

Mae 43 o'r ceisiadau gan glybiau sy'n aelodau o'r undeb ac mae'r rhain yn cynnwys y pedwar rhanbarth.

Cyn brif weithredwr yr undeb David Moffett sydd wrth wraidd y datblygiad diweddaraf, wrth iddo geisio sicrhau lle ar fwrdd llywodraethu'r undeb.

Gallai pleidlais o ddiffyg hyder yn URC yn y cyfarfod orfodi yr aelodau etholedig i adael, gan roi cyfle i Moffett ddychwelyd.

Yn 2007 y cynhaliwyd y Cyfarfod Cyffredinol Eithriadol diwethaf.

Roedd Moffett yn brif weithredwr yr undeb pan gafodd y Rhyfelwyr Celtaidd eu diddymu yn 2004.

Roedden nhw'n un o'r pum rhanbarth gwreiddiol ynghyd â'r Gweilch, y Scarlets, y Gleision a'r Dreigiau.

Moffett oruchwyliodd ddechreuadau rygbi rhanbarthol yng Nghymru yn 2003 pan gymrodd y rhanbarthau le'r 12 clwb proffesiynol.

Straeon perthnasol