Giggs yn ymddeol o bêl-droed
- Cyhoeddwyd

Ryan Giggs yw rheolwr cynorthwyol Manchester United wrth i Louis van Gaal gael ei benodi'n rheolwr.
Cyhoeddodd Giggs, 40 oed, ei fod yn ymddeol o chwarae'n broffesiynol.
Mae'r Cymro wedi bod wrth y llyw yn Manchester United ers i David Moyes gael ei ddiswyddo ym mis Ebrill.
Bydd yn parhau i weithio gyda van Gaal fydd yn cymryd drosodd yn y clwb ar ôl Cwpan y Byd yn yr haf.
'Hynod o falch'
Chwaraeodd Giggs dros 950 o weithiau i'r clwb yn ystod ei yrfa ac roedd rhai o chwaraewyr y clwb wedi galw am roi swydd barhaol iddo wedi ei berfformiad yn y pedair gêm pan oedd yn rheolwr.
Ond mewn datganiad dywedodd: "Rydw i'n hynod o falch i gael cyfle i weithio fel rheolwr cynorthwyol.
"Mae Louis van Gaal yn hyfforddwr o'r safon uchaf a dwi'n siŵr y bydda i'n dysgu llawer iawn am hyfforddi ...
"Mae Manchester United wedi bod yn rhan enfawr o fy mywyd ac rydw i'n falch iawn i allu parhau'r berthynas yna mewn rôl mor allweddol."
Mae Louis van Gaal, 62, wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r clwb a bydd yn dechrau'r swydd ar ôl iddo arwain yr Iseldiroedd yng Nghwpan y Byd.
Yn ei yrfa mae wedi ennill teitlau hefo Ajax, Barcelona, Bayern Munich ac AZ Alkmaar.
Straeon perthnasol
- 22 Ebrill 2014
- 10 Ionawr 2014
- 29 Tachwedd 2013