Heddlu'n ymchwilio i farwolaeth sydyn

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i farwolaeth sydyn ym mhentref Troedyrhiw ger Merthyr Tudful.

Dywedodd yr heddlu bod corff dyn, 30, wedi ei ddarganfod ar Church Street brynhawn dydd Iau.

Mae'r dyn wedi cael ei enwi'n lleol fel Christopher Williams.

Nid oes unrhyw beth i awgrymu bod y farwolaeth yn un amheus, yn ôl yr heddlu ac mae ei berthnasau wedi cael eu hysbysu.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu nad ydyn nhw'n meddwl bod cysylltiad rhwng y farwolaeth hon a marwolaeth Joanne Thomas a'i babi, Arthur, fu farw yn yr un cyfeiriad y flwyddyn diwethaf.