Gemau: Dechrau traddodiad yn Nghymru yn 1958

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llunCommonwealth Games Federation
disgrifiad o’r llunRoger Bannister (canol), Peter Driver (chwith) a Chris Chataway'n cludo'r Baton o Balas Buckingham

Wrth i Gymru baratoi i groesawu Baton y Frenhines cyn Gemau'r Gymanwlad, mae cyfle i gofio rhôl bwysig Cymru yn y traddodiad sy'n rhan annatod o'r Gemau erbyn heddiw.

Bydd y Baton yn teithio drwy Gymru am saith diwrnod fel rhan o'r daith drwy 71 o wledydd a rhanbarthau cyn agoriad swyddogol Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow ym mis Gorffennaf.

Fel y Gemau Olympaidd - lle mae'r Ffagl Olympaidd a'r fflam yn cael ei gludo tuag at yr agoriad - mae'n hen draddodiad cyn dechrau Gemau'r Gymanwlad i'r Baton wneud y daith.

Ond faint o bobl sy'n sylweddoli bod y traddodiad yma wedi dechrau pan gafodd y Gemau eu cynnal yng Nghaerdydd yn 1958?

Enw'r gemau bryd hynny oedd Gemau'r Ymerodraeth, ac yn 1958 y sefydlwyd Baton y Frenhines fel modd o uno'r cenhedloedd cyn y digwyddiad mawr.

Y nod oedd i'r baton fod yn symbol o heddwch ymysg y gwledydd sy'n cystadlu yn y Gemau.

Y person cyntaf i gario'r Baton oedd yr athletwr enwog Roger Bannister - y dyn cyntaf i redeg milltir mewn llai na phedwar munud - o Balas Buckingham wrth i'r baton deithio i Barc yr Arfau yng Nghaerdydd.

ffynhonnell y llunBritish Pathe
disgrifiad o’r llunY gwibiwr a'r chwaraewr rygbi Ken Jones ddaeth â'r baton i Barc yr Arfau yn 1958.....
ffynhonnell y llunMedia Wales
disgrifiad o’r llun...cyn ei drosglwyddo i Ddug Caeredin ym Mharc yr Arfau

Fe fydd y baton gwreiddiol hwnnw yn cael ei dynnu o storfa yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd cyn cael ei arddangos ochr yn ochr â'r un newydd wrth iddo lanio ym Maes Awyr Caerdydd ar Fai 24.

ffynhonnell y llunNorman Richards
disgrifiad o’r llunBu Norman Richards yn cario'r baton yn 1958, ac fe fydd yn gwneud hynny eto yn 2014

Un fu'n cario'r baton gwreiddiol oedd Norman Richards - athletwr 18 oed ar y pryd oedd yn gwneud y naid hir a'r naid driphlyg - ac a fydd hefyd yn cario'r baton modern eleni.

Mae Mr Richards yn cofio rhedeg gyda'r baton yn 1958 drwy bentref Tonyrefail, a'i bod yn ddiwrnod heulog braf yn y Rhondda.

"Roedd hi'n anrhydedd ac yn fraint, ac rwy'n cofio teimlo'n falch dros ben," meddai.

"Y Gemau yn 1958 oedd y digwyddiad chwaraeon mwyaf erioed i gael ei gynnal yng Nghymru, ac roedd miloedd o bobl ar hyd y strydoedd gyda'r plant wedi cael mynd o'r ysgol - roedd e'n dipyn o achlysur."

Er bod Mr Richards, sydd erbyn hyn yn 74 oed, wedi mwynhau ei ran yn hanes chwaraeon Cymru, roedd yn rhy ifanc i gystadlu yn y Gemau yn 1958, ond mae wrth ei fodd ei fod wedi cael ei ddewis i gario'r baton unwaith eto yn 2014 - y tro hwn yn Aberdâr.

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at y diwrnod. Fe fydd yn dod ag atgofion melys iawn yn ôl i mi," ychwanegodd.

disgrifiad o’r llunRoedd y baton ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 1958 yng Nghaerdydd yn cynnwys symbol y Ddraig Goch
ffynhonnell y llunGlasgow 2014
disgrifiad o’r llunBydd Baton y Frenhines ar gyfer Glasgow 2014 yn ymweld â Chymru am saith diwrnod o Fai 24

Dim ond 600 milltir oedd taith y baton yn 1958, gan fynd i bob sir yng Nghymru dros bedwar diwrnod.

Cafodd ei gludo i mewn i stadiwm Parc yr Arfau gan y gwibiwr a'r chwaraewr rygbi Ken Jones, er roedd hynny'n gyfrinach tan iddo ymddangos o flaen y dorf yng Nghaerdydd.

Trosglwyddwyd y baton ganddo i Ddug Caeredin, ac fe wnaeth y tywysog ddarllen neges y Frenhines yn y baton i'r dorf.

Straeon perthnasol