Y Gleision: gwadu celu gwybodaeth oedd yn 'sensitif'

Malcolm Fyfield Image copyright Wales News Service
Image caption Mae Malcolm Fyfield yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad

Mae'r prif ymchwilydd i achos y Gleision wedi gwadu iddo beidio son am rhai manylion yn ei ddatganiadau neu adroddiadau am fod y drychineb yn "sensitif yn wleidyddol".

Mae Tony Forster yn dweud ei fod ond wedi cynnwys gwybodaeth oedd yn berthnasol i'r ymchwiliad.

Cafodd David Powell, 50, Charles Breslin, 62, Philip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, eu lladd wedi i hyd at 650,000 galwyn o ddŵr lifo i'r lofa.

Mae Malcolm Fyfield, 58 oed, yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad ac mae'r cwmni oedd yn berchen ar y safle, MNS Mining, yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.

'Ddim yn berthnasol'

Yn y llys mi ofynodd Elwen Evans QC, ar ran yr amddiffyniad, a oedd o wedi gadael pryderon yr Aelod Seneddol Peter Hain allan o'r adroddiad.

Roedd y gwleidydd wedi codi pryderon ynglŷn â rôl y Gwasanaeth Achub Pyllau Glo (Mines Rescue Service).

Ateb Mr Forster oedd: "Na, doedd e ddim yn berthnasol i'r ymchwiliad."

Mi ddywedodd Mr Forster ei fod wedi briffio Mr Hain, y Prif Weinidog Carwyn Jones a chyn ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan y diwrnod wedi'r drychineb.

Mi oedd o yn derbyn ei fod o'n gyfrifol am arwain rhannau o'r ymchwiliad ond mae'n gwadu ei fod wedi cael ei apwyntio'n arweinydd y tim ymchwilio yn swyddogol.

Yn ôl Mr Forster mi oedd na sawl agwedd i'r ymchwiliad.

Yn gynharach, clywodd y rheithgor nad oedd pwll glo y Gleision wedi ei archwilio ers 16 mis cyn y diwrnod pan fu farw'r pedwar glöwr.

Mae Mr Forster wedi dweud bod na sawl rheswm am hynny gan gynnwys tywydd gwael.

Mae'r achos yn parhau.

Straeon perthnasol