Heddlu'n chwilio am leidr

Mae'r heddlu yng Nghasnewydd yn ymchwilio ar ôl i leidr ddwyn breichled a mwclis aur oddi ar ddynes 23 oed wrth iddi gerdded ger mynedfa parc yn y ddinas.

Dywed yr heddlu fod y lleidr wedi rhedeg i'r parc ar ôl y digwyddiad am 9.30pm nos Sul.

Mae'r heddlu yn chwilio am ddyn tua 30 oed, chwe throedfedd o daldra ac yn wyn gyda gwallt tywyll.

Roedd o'n siarad gydag acen dramor ac yn gwisgo cot frown, a jeans tywyll.

Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.