Tanio gwn: dyn wedi ei arestio

Mae dyn 63 oed wedi ei arestio yn Sir Fflint ar ôl i wn gael ei danio mewn ardal wledig.

Mi fuodd yr heddlu yn chwilio am y dyn nos Lun ac mi gafodd ei arestio yn agos i'r Wyddgrug.

Mae'r heddlu yn dweud bod y dyn yn berson lleol ac nad ydyn nhw yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.