Y Gleision: Arolygwr yn rhoi tystiolaeth
- Cyhoeddwyd

Mae dyn fu'n arwain yr ymchwiliad i drasiedi glofa'r Gleision wedi dweud wrth lys barn iddo deimlo "ias oer" wrth weld map am y tro cyntaf oedd yn dangos lle bu glowyr yn gweithio.
Dywedodd Tony Foster, cyn arolygwr pyllau ar gyfer y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, fod y map yn awgrymu fod y glowyr wedi bod yn gweithio i gyfeiriad cronfa ddŵr guddiedig.
Cafodd David Powell, 50, Charles Breslin, 62, Philip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, eu lladd wedi i hyd at 650,000 galwyn o ddŵr lifo i'r lofa ar Fedi 15, 2011.
Fe wnaeth y glowyr ddefnyddio ffrwydradau wnaeth achosi 17 tunnell o ddŵr i lenwi'r safle mewn chwe eiliad.
Mae rheolwr y pwll, Malcolm Fyfield, 58 oed, yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad ac mae'r cwmni oedd yn berchen ar y safle, MNS Mining, yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.
Dywedodd Mr Foster, sy bellach yn arolygu pyllau glo yn Seland Newydd, mai'r peth cyntaf iddo wneud ar ôl cyrraedd y safle oedd edrych ar fap o'r lofa.
"Roedd y map mewn cyflwr eithaf, gwael, roedd o'n wlyb ac roedd ol fod pobl wedi bod yn ei ddefnyddio. Ond yr hyn wnaeth fy nharo i yn syth oedd y ffaith fod yna lwybr pendant yn cael ei ddilyn (i gyfeiriad y dŵr).
"Fe wnes i deimlo ias oer yn syth."
Dryslyd
Yn Llys y Goron Abertawe cafodd Mr Foster ei holi gan Gregg Taylor QC ar ran yr erlyniad ynglŷn â chyflwr y pwll yn syth wedi'r ddamwain.
"Fe es i welod safle H1 (lle bu'r glowyr yn gweithio). Pan wnes i gyrraedd roedd e'n ofnadwy.Roedd y lle yn llawn niwl, roedd yna ddau bwmp aer ac roedd hi'n swnllyd iawn.
"Roedd dŵr yn tasgu oddi ar y pympiau aer, roedd yr holl sefyllfa yn ddryslyd."
Dywedodd er bod lefel y dŵr yn uchel roedd o wedi gostwng digon iddo roi ei ben trwodd i weld y safle.
Ychwanegodd ei fod wedi mynd mor bell ag oedd o'n gallu lawr y pwll.
"Roedd llawer o laid wedi ei olchi lawr y pwll, roedd yna bren ym mhobman, roedd y safle yn un anhrefnus.
"Fe wnes i fynd ar fy mhedwar drwy'r twnnel oedd wedi ei greu gan y timau achub. Fe es i ddiwedd y twnnel hwnnw, ond ddim pellach."
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- 29 Ebrill 2014
- 28 Ebrill 2014
- 25 Ebrill 2014
- 24 Ebrill 2014
- 17 Ebrill 2014