Tywydd garw: Anaf arwydd siop
- Cyhoeddwyd
Cafodd un person fân anafiadau ar ôl i arwydd siop ddisgyn mewn stryd siopa brysur ym Mhenarth.
Galwyd yr heddlu i Ffordd Windsor, Penarth am 12:36 dydd Sadwrn.
Yn ôl llefarydd yr heddlu :
" Mae'n ymddangos bod (yr arwydd) wedi cael ei chwythu gan y gwynt ac fe ddaeth e lawr. Does neb arall wedi brifo".
Cafodd y gwasanaeth tân ac achub eu galw yno hefyd er mwyn sicrhau fod yr ardal yn ddiogel.
Ffynhonnell y llun, James MacGregor
Coeden yn disgyn yn Brynmill, Abertawe
Galwadau brys
Cafwyd adroddiadau hefyd o wyntoedd cryfion yn achosi problemau gan gynnwys coed yn disgyn.
Cafodd y gwasanaethau brys alwadau mewn sawl ardal gan gynnwys
Abertawe, Abercynon, Llanofer, Tonyrefail, Llantrisant a Bae Caerdydd.
Fe ddisgynnodd un goeden yn beryglus o agos at geir yn ardal Brynmill, Abertawe. Yn ôl yr heddlu, anafwyd neb yn y digwyddiad