Dyn wedi marw mewn damwain ffordd ger Arberth
- Cyhoeddwyd

Bu farw dyn 62 oed mewn damwain ar ffordd yr A478 ger Arberth, Sir Benfro.
Yn ôl yr heddlu roedd y dyn a fu farw yn byw yn lleol ac yn teithio ar ben ei hun pan ddigwyddodd gwrthdrawiad rhwng Begeli a Arberth tua 22:55 nos Wener.
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi apelio am dystion i'r digwyddiad.