Cymdeithas: 'Nifer yn ein cefnogi'

Cymdeithas
Image caption Mae'r Gymdeithas wedi cynnal nifer o brotestiadau n dilyn canlyniadau siomedig Cyfrifiad 2011

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dweud bod nifer o fudiadau a Chymry "blaenllaw" yn cefnogi eu hymgyrch i newid y drefn gynllunio er budd yr iaith.

Dyw'r Gymdeithas ddim yn hapus â'r bil cynllunio sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fel mesur drafft, gan honni nad yw'n "cynnwys yr un cyfeiriad at y Gymraeg".

Maen nhw'n dweud bod hynny'n mynd yn erbyn ymroddiad y llywodraeth tuag at yr iaith.

Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud mai Cynlluniau Datblygu Lleol yw'r ffordd fwyaf addas o ystyried yr effaith ar yr iaith.

Pum 'gwelliant'

Mae'r Gymdeithas wedi cyhoeddi pum ffordd maen nhw'n credu gallai'r ddeddfwriaeth gael ei wella.

Mae'r rhain yn cynnwys sicrhau bod effaith datblygiadau ar y Gymraeg yn cael eu hasesu a rhoi grym cyfreithiol i gynghorwyr wneud yr iaith yn ystyriaeth all arwain at wrthod cais cynllunio.

Yn ôl datganiad maen nhw wedi ei yrru i'r wasg, mae Cyfeillion y Ddaear Cymru, prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol Elfed Roberts ynghyd â nifer o fudiadau ac unigolion eraill yn cefnogi'r ymgyrch.

Dywedodd Toni Schiavone: "Rwy'n falch ein bod wedi derbyn cymaint o gefnogaeth i'n galwadau, ac yn dangos bod consensws yn cael ei ffurfio ynghylch pwysigrwydd y newidiadau hyn i'r gyfundrefn gynllunio."

'Cyfle'

Image caption Mr Schiavone yw llefarydd cymunedau cynaliadwy y Gymdeithas

Ychwanegodd Mr Schiavone: "Mae'r datganiad, sy'n seiliedig ar ein cynigion deddfwriaethol amgen ni fel mudiad, yn ceisio rhoi buddiannau cymunedau'n gyntaf er mwyn taclo tlodi yn ogystal â phroblemau sy'n wynebu'r iaith a'r amgylchedd.

"Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i ddangos eu bod nhw o ddifrif am sicrhau dyfodol cymunedau Cymraeg a gallu pobl i fyw yn Gymraeg.

"Mae'n hanfodol bod y Gymraeg yn cael ei gwneud yn ystyriaeth berthnasol yn y maes cynllunio er mwyn iddi ffynnu dros y blynyddoedd ddod."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe wnaeth ymgynghoriad ar y Bil Cynllunio (Cymru) Drafft gau'n ddiweddar ac rydym nawr yn ystyried yr ymatebion ddaeth i law.

"Mae'r bil drafft yn ceisio gwella'r system gynllunio yng Nghymru, er budd pawb. Mae TAN 20 yn ei wneud yn glir mai'r lle mwyaf addas o fewn y system gynllunio ar gyfer ystyriaeth i'r effaith ar yr iaith Gymraeg, yw yn y Cynllun Datblygu Lleol.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i system sydd wedi ei arwain gan gynllunio ac mae awdurdodau lleol angen gwneud yn siŵr fod yr iaith Gymraeg yn cael ei hystyried pan mae'r Cynlluniau Datblygu Lleol yn cael eu paratoi."

Tan 20

Fis Hydref y llynedd fy gyhoeddodd y llywodraeth ganllawiau newydd yn ymwneud â sut dylid ystyried yr iaith o fewn y system gynllunio.

Fe ddywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones, sydd â'r cyfrifoldeb am yr iaith o fewn y Cabinet, y bod hwn yn "cyflawni ein hymrwymiad yn Iaith fyw: iaith byw, Strategaeth y Gymraeg ar gyfer 2012-17, ac rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth ac arweiniad Comisiynydd y Gymraeg wrth ei baratoi".

Roedd y Gymdeithas yn feirniadol o hwnnw hefyd, gan ddadlau ei fod yn rhyfedd iawn "bod y nodyn yn datgan na ddylai awdurdodau gynnal asesiadau effaith iaith ar geisiadau cynllunio unigol."

Ychwanegodd Cen Llwyd: "Dyw'r nodyn ddim yn trin y Gymraeg fel iaith i bawb nac i bob rhan o Gymru chwaith."

Mae Dyfodol i'r Iaith hefyd wedi bod yn feirniadol o'r canllawiau.

Straeon perthnasol