Carcharu dyn am neges Twitter am Ann Maguire
- Cyhoeddwyd

Plediodd Robert Riley yn euog i gyhuddiad o ddanfon neges ffiaidd, sarhaus neu faleisus
Mae dyn 42 oed o Bort Talbot wedi ei garcharu am wyth wythnos ar ôl iddo ddanfon negeseuon Twitter maleisus ynglŷn â marwolaeth yr athrawes Ann Maguire.
Yn Llys Ynadon Abertawe, plediodd Robert Riley yn euog i gyhuddiad o ddanfon neges ffiaidd, sarhaus neu faleisus.
Bu farw Mrs Maguire, 61, ar ôl iddi gael ei thrywanu mewn ystafell ddosbarth yn Leeds ym mis Ebrill.
Clywodd y llys fod Mr Riley wedi trydar yn cynnwys enw'r bachgen 15 oed gafodd ei arestio yn dilyn y digwyddiad.
Fe ddanfonodd negeseuon hefyd yn son am ladd athrawon eraill.
Dywedodd Riley ei fod difaru ei ymddygiad yn fawr iawn.
Straeon perthnasol
- 5 Mai 2014