Cofio 'tywysog ymysg pêl-droedwyr'

Leigh Roose Image copyright EILEEN JACKSON
Image caption Bu farw Leigh Roose yn ffosydd y Somme yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Fe fydd hanes un o bêl-droedwyr enwoca'r byd yn ei gyfnod yn cael ei gofnodi yn amgueddfa dros dro Clwb Wrecsam ganrif wedi iddo gael ei ladd yn y Rhyfel Mawr.

Roedd Leigh Roose, oedd yn fab i weinidog Presbyteraidd o bentref Holt ger Wrecsam, yn golwr i'r clwb o gwmpas troad yr 20fed ganrif.

Ef hefyd oedd golwr Cymru yn y gêm yn erbyn Iwerddon ar y Cae Ras yn 1906, a'r ffilm o'r gêm honno yw'r hynaf sy'n bodoli o gêm ryngwladol.

Flwyddyn cyn hynny yn 1905 fe wnaeth papur y Daily Mail ddewis tîm fyddai'n cynrychioli'r byd pe bai gêm yn erbyn planed arall, a Roose oedd y dewis diamheuol fel golwr.

Cafodd ei ddisgrifio gan un o fawrion pêl-droed Cymru erioed - Billy Meredith - fel "tywysog ymysg pêl-droedwyr".

'Campau acrobataidd'

Ond roedd hefyd yn enwog am ei gampau oddi ar y cae gyda'r papur yn ei ddisgrifio fel ffefryn mawr ymhlith y merched yn Llundain yn oes y Brenin Edward VII.

Spencer Vignes yw awdur bywgraffiad Leigh Roose - Lost in France - ac mae'n canu ei glodydd fel chwaraewr gan ddweud:

"Leigh oedd y model ar gyfer golwyr yr oes fodern. Yn y dyddiau yna roedd golwyr yn cael trafod y bêl yn rhywle ar y cae, ond roedd cic a thafliad Leigh mor dda fel y gwnaeth yr FA newid y rheolau fel bod golwyr ond yn cael gafael yn y bêl yn y cwrt cosbi.

"Roedd cefnogwyr wrth eu bodd gydag e oherwydd roedd e wastad yn cynnal tipyn o sioe.

"Pan oedd y bêl ben arall y cae fe fyddai'n gwneud campau acrobataidd ar y trawst i'w diddanu!"

Daeth ei fywyd i ben yn ffosydd y Somme yn y Rhyfel Byd cyntaf, ond fe fydd yn cael ei gofio gan glwb Wrecsam yn yr amgueddfa dros dro yng nghanolfan siopa Dôl yr Eryrod gan ddechrau dydd Mawrth.

Yn y cyfamser mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi apelio ar gefnogwyr i gysylltu â nhw os oes ganddyn nhw unrhyw greiriau i gofio am hanes y clwb sy'n dathlu ei ben-blwydd yn 150 eleni.

Straeon perthnasol