Dyn wedi marw a dynes wedi ei hanafu mewn gwrthdrawiad

Mae dyn yn ei 40au wedi marw a dynes wedi ei hanafu yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Nhorfaen.

Bu farw'r dyn pan darodd ei Subaru arian i mewn i Peugeot coch ar Ffordd Cwmafon, Blaenafon, brynhawn ddydd Gwener.

Cafodd y ddynes, oedd yn gyrru'r car arall, ei chludo i Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod nhw'n ymchwilio i'r gwrthdrawiad, a bod swyddogion arbenigol gyda theulu'r dyn sydd wedi marw.

Mae'r Heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.