Zebre 30-27 Gweilch

Cafodd Alun Wyn Jones gais Image copyright Alun Wyn Jones
Image caption Cafodd Alun Wyn Jones gais

Cafodd y Gweilch siom yn Parma wrth i gais yr eilydd o fewnwr Guglielmo Palazzani yn y funud ola' olygu'r fuddugoliaeth gynta' yn erbyn y rhanbarth o Gymru.

Mae'r canlyniad yn bygwth gobeithion y Gweilch yn y Pro12.

Ar y llaw arall, mae buddugoliaeth yr Eidalwyr yn golygu y gallen nhw chwarae yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y flwyddyn nesa'.

Giovanbattista Venditti a Brendan Leonard groesodd y llinell i Zebre.

Justin Tipuric, Ashley Beck a'r capten Alun Wyn Jones sgoriodd geisiadau i'r Cymry mewn gêm gyffrous.

Straeon perthnasol