Croesawu adroddiad sgiliau Cymraeg

cymraeg

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a'r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates, wedi croesawu adroddiad ar anghenion cyflogwyr yng Nghymru o ran sgiliau yn y Gymraeg.

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n seiliedig ar gasgliadau arolwg a gysylltodd â thros 4,000 o gyflogwyr mewn wyth sector ledled Cymru.

Y sectorau oedd gofal plant, gofal cymdeithasol, y diwydiannau creadigol, y gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, manwerthu, adeiladu, lletygarwch a bwyd-amaeth.

Mae'r casgliadau'n helpu Llywodraeth Cymru i ddeall anghenion cyflogwyr yng Nghymru o ran sgiliau yn y Gymraeg, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

66%

Mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio i sicrhau bod digon o bobl yn y gweithlu sydd â'r sgiliau i allu bodloni'r galw o ran defnyddio'r Gymraeg, a bod cyflogwyr yn gwybod am y manteision sy'n deillio o ddefnyddio'r Gymraeg a'i hyrwyddo bob cyfle.

Wrth gynnal yr arolwg, cafwyd bod agwedd cyflogwyr tuag at y Gymraeg yn gadarnhaol ar y cyfan, gyda 66% ohonynt yn dweud eu bod eisoes yn cyflogi staff sy'n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg.

Gwelwyd hefyd mai prin oedd y cyflogwyr a oedd yn dweud ei bod yn anodd llenwi swyddi lle mae sgiliau yn y Gymraeg yn ofynnol.

Ond serch hynny dywedodd y mwyafrif ohonynt nad oeddent erioed wedi chwilio am gyfleoedd hyfforddiant i wella Cymraeg eu gweithwyr.

'Gwahaniaethau mawr'

Daeth gwahaniaethau mawr i'r golwg rhwng agweddau mewn gwahanol ranbarthau a sectorau, a chyflogwyr yn y gogledd ac yn y sector gofal plant oedd fwyaf tebygol o deimlo bod sgiliau yn y Gymraeg yn bwysig.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru:

"Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw'r cysylltiad rhwng yr economi a'r iaith yn yr ymdrechion i sicrhau dyfodol i'r iaith, a bydd casgliadau'r arolwg hwn yn ein helpu i roi'r cymorth priodol i fusnesau ac i weithwyr yn y dyfodol.

"Rydyn ni'n awyddus i weld pobl yn cael y cyfle i fyw eu bywyd bob dydd yn Gymraeg os ydyn nhw'n dymuno, ond er mwyn i hynny fod yn bosibl rhaid bod yna bobl o fewn y gweithlu sy'n ddigon hyderus i ddefnyddio'r Gymraeg.

"Byddwn yn defnyddio casgliadau'r arolwg i'n helpu i gynllunio hyfforddiant ôl-16 priodol, er enghraifft darparu mwy o brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn i bobl ifanc allu parhau â'u hyfforddiant yn Gymraeg wrth iddynt baratoi ar gyfer byd gwaith.

'Sgil gwerthfawr'

"Byddwn ni hefyd yn parhau i weithio gyda chyflogwyr i sicrhau eu bod yn gwybod am y manteision i'w busnesau, eu cwsmeriaid a'u staff, a ddaw o ddefnyddio'r iaith.

"Ar hyn o bryd, does dim digon o gyfleoedd i weithwyr ddefnyddio neu ddysgu'r iaith, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid ei newid. Mae'r sgil o allu defnyddio'r Gymraeg yn sgil gwerthfawr, a dylid hyrwyddo hyfforddiant yn y Gymraeg sy'n berthnasol i'r gweithle."

Meddai'r Gweinidog Sgiliau a Thechnoleg, Ken Skates:

"Mae'n hanfodol sicrhau bod ein cyflogwyr yn gwybod am y manteision a ddaw o ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle, gan ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd - waeth beth yw lefel eu gallu.

"Drwy ein Datganiad Polisi ar Sgiliau, sef cynllun 10 mlynedd newydd i wella'r sgiliau sydd ar gael yng Nghymru, rydyn ni'n cymryd camau ymarferol i wella'r sefyllfa.

"Fel rhan o hynny, byddwn ni'n cyflwyno Porth Sgiliau newydd a fydd yn helpu cyflogwyr i nodi pa sgiliau y gellid eu gwella ymhlith eu gweithlu, gan gymryd camau i wneud hynny. Byddwn ni'n tynnu sylw at y manteision i'w busnes a allai ddod o wella sgiliau eu gweithwyr o ran defnyddio'r Gymraeg.

"Ar hyn o bryd rydyn ni'n ymgynghori ar sut y byddai Llywodraeth Cymru a chyflogwyr yn gallu cyd-fuddsoddi yn y broses o ddatblygu sgiliau.

"Er enghraifft, efallai byddai'n bosibl newid lefel y buddsoddi y bydd ei angen o du'r cyflogwr os bydd y cymhwyster yn debygol o gael effaith bositif ar y defnydd o'r Gymraeg. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar Fai 16.

"Hoffwn annog pawb sydd â diddordeb mewn darparu sgiliau ac yn yr iaith Gymraeg i anfon eu sylwadau at yr ymgynghoriad hwn. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cael eu barn os ydyn ni am ddatblygu dulliau cynaliadwy, effeithiol ac ymarferol o hyrwyddo'r Gymraeg yn y gweithle."