Gleision 17-13 Scarlets

Liam Williams of the Scarlets and Cardiff Blues Robin Copeland are sent off Image copyright Huw Evans picture agency

Mewn gêm llawn cynnwrf y Gleision aeth a hi yn erbyn y Scarlets er i dîm y sosban sgorio dau gais yn erbyn un gan dîm y brif ddinas.

Fe orffennodd y ddau glwb gyda 14 chwaraewr ar ôl i Robin Copeland sathru ar ben chwaraewr yn y ryc a chafodd cefnwr Cymru Liam Williams hefyd ei anfon oddi ar y cae am ladd y bêl. Dyma oedd yr ail waith i'r cefnwr gael ei gosbi yn ystod y gêm.

Alex Cuthbert gafodd y cais gyntaf i'r Gleision ar ol daearu'r bêl yn agos i'r gornel.

Dau o chwaraewyr Cymru, Rhys Priestland a Ken Owens sgoriodd geisiadau'r Sgarlets. Daeth cais cyntaf y maswr yn yr hanner cyntaf ond methodd gyda'r trosiad er bod hi'n ymddangos yn gic syml.

Y sgor ar yr hanner felly oedd 14-8 ar ol dwy gic gosb gan Gareth Davies. Yn yr ail hanner dechreuodd y Scarlets ar dân gyda bachwr Cymru yn daearu'r bel.

Ond sicrhawyd y fuddugoliaeth gan gic gosb lwyddiannus arall gan Gareth Davies.

Y sgor terfynol felly oedd 17-13 i'r Gleision.

Roedd y canlyniad yn siomedig i'r Scarlets gan y byddai buddugoliaeth wedi sicrhau'r chweched safle iddyn nhw yn y gynghrair a lle yng Nghwpan Ewrop y tymor nesaf. Mi fydd yn rhaid iddyn nhw nawr aros am ei gêm nesaf er mwyn ceisio ennill pwyntiau.

Dim ond un safle tu ôl i dîm y Sosban mae'r Gleision nawr ond mae naw pwynt o wahaniaeth rhwng y ddau glwb.

Straeon perthnasol