Wimbledon 2 - 2 Casnewydd

Casnewydd

Wimbledon 2 - 2 Casnewydd

Gêm gyfartal oedd hanes Casnewydd yn erbyn Wimbledon yn Adran 2 b'nawn Gwener.

Zebroski oedd y cynta' i sgorio i Gasnewydd, a hynny wedi chwarter awr. Felly'r oedd hi am weddill yr hanner cynta'.

Eiliadau wedi i'r ail hanner ddechrau, fe sgoriodd Casnewydd eto. Cic o'r smotyn y tro hwn, a Michael Flynn yn rhwydo.

Ond fe darodd Wimbledon yn ôl, gan sgorio ddwywaith - un yr un i Kwesi Appiah a George Francomb - i sicrhau pwynt.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn aros yn y 13eg safle yn Adran 2, a'u dyfodol yn y gynghrair yn edrych yn sicr, erbyn hyn.