Y Chwyldro: Gadael yr 20fed Ganrif

Gareth Potter yn chwilio am y gân nesaf? Image copyright Angen checio a chael caniatad
Image caption Gareth Potter yn chwilio am y gân nesaf?

Fel aelod o Clustiau Cŵn, Pop Negatif Wastad, Tŷ Gwydr ac yn fwy diweddar fel DJ poblogiadd, mae Gareth Potter wedi bod yn ffigwr blaenllaw yn y sîn roc Gymraeg ers dros dri degawd. Nawr mae ei sioe theatrig un dyn 'Gadael yr 20fed Ganrif', sy'n croncilo cyfnod cyffrous yn niwylliant a gwleidyddiaeth Cymru, wedi ei haddasu yn raglen deledu.

Cafodd BBC Cymru Fyw sgwrs gyda Gareth am yr ysbrydoliaeth tu ôl i'r sioe a sut mae'r disgiau yn dal i droelli:

Image caption Clustiau Cŵn... bach

Beth yw cefndir y sioe?

"Ro'n i wedi perfformio cwpwl o sioeau un dyn yn y gorffennol ('Marriage of Convenience' gan Ian Rowlands a 'Love Furies' gan David Rabey) ac o'n i wrth fy modd ac yn gwbwl gyfforddus bod ar lwyfan ar fy mhen fy hun.

"Pan yn chwilio am ddeunydd ar gyfer sioe newydd Gymraeg, roedd adrodd stori hunangofiannol am gyfnod hynod bwysig yn hanes ddiwylliant Cymru a cherddoriaeth Gymraeg yn teimlo'n gwbwl naturiol."

Pam fod y cyfnod mor bwysig i ti?

"Ym 1979, ffurfiais fy mand cyntaf (Clustiau Cŵn) tua chwe mis ar ôl i Gymru bleidleisio 'Na' yn y refferendwm datganoli. Dros y bum mlynedd nesa' daeth S4C i fodolaeth ond hefyd sîn tanddaearol/indi roc Cymraeg. Tyfodd grwpiau fel Datblygu, Y Cyrff, Yr Anhrefn, Tynal Tywyll, Ffa Coffi Pawb a Gorkys allan o'r sîn yma. Hefyd labeli fel Ankst a rhaglenni fel Fideo9.

"Erbyn canol y 90au roedd y cymeriadau yma'n glwm wrth y ffenomenon Cŵl Cymru ac fe bleidleisiodd Cymru 'Ie' yn refferendwm '97. Erbyn 2000, roedd Cymru'n dra gwahanol i Cymru '79 ac roeddwn i am adrodd y stori fel rhywun oedd yn teimlo ei fod yn rhan o'r holl beth."

Image caption Yr Anrhefn - un o fandiau mwyaf dylanwadol y sîn roc Gymraeg

Ydy'r sioe efallai'n gweddu'n well i deledu na sioe theatr?

"Mae'r sioe deledu'n hollol wahanol i'r sioe theatr. Yn y theatr, dim ond fi sy' na'n siarad gyda'r gynilleidfa ac yn ceisio ail greu y gigs a'r cyffro ar fy mhen fy hun! Yn y fersiwn deledu, ges i gyfle i siarad gyda'r rhai oedd yn gyd-deithwyr gyda mi - pobol fel Mark Lugg, Dave Datblygu a Mark Roberts o'r Cyrff a Catatonia.

"Roedd y fersiwn llwyfan yn llawer mwy personol - yn sôn am fy mhlentyndod ac yn y blaen. Mae'r fersiwn deledu'n canolbwyntio mwy ar y cymeriadau oedd yn gyrru'r sîn. Hefyd yn gweithio ar y fersiwn deledu mae Pete Telfer y cyfarwyddwr. Roedd e hefyd yna yn yr '80au a'r '90au, yn cofnodi'r sîn ar ei gamera. Mae'r ffilm yn cynnwys llwyth o stwff sydd heb ei weld ar deledu o'r blaen."

Mae'r cyfnod yn un o newid yn y byd cyfoes ac adloniant yng Nghymru a thu hwnt. Pwy neu beth oedd yn gyrru'r newid ti'n meddwl?

"Roedd yn naturiol fod pethau'n newid i roc a rôl Cymraeg dros y cyfnod o 15-20 mlynedd. Roedd bandiau fel Edward H a Hergest yn y 70au ddim jest wedi gosod y seiliau ond wedi creu rhywbeth i frwydro yn ei erbyn. Roedd strategaeth pync (ddim o reidrwydd y steil o gerddoriaeth) yn beth cwbwl iawn i'w ddefnyddio er mwyn creu mudiad newydd.

"Y peth pwysica na'th Rhys Mwyn a Recordiau Anhrefn oedd dangos i bawb fod cynulleidfa tu hwnt i Gymru a'r sîn Gymraeg i'r artistiaid. Felly, erbyn i Fideo9 ddechrau darlledu roedd yn gallu adlewyrchu'r ffaith fod grwpiau Cymraeg yn ymddangos ar raglen John Peel ar Radio 1 ac yn teithio led led Ewrop. Hefyd, fe ddaeth technoleg yn fforddiadwy i artistiaid tlawd fel Tŷ Gwydr allu ymuno yn y ffrwydriad mewn miwsic dawns ddigwyddodd yn y '90au."

Roedd y cyfnod dan sylw yn Gadael yr 20fed Ganrif yn un o newid sylweddol a sylfaenol yn y ffordd yr oedd cerddoriaeth yn cael ei greu a'i farchnata. Ydy hi'n bryd i ni gael cyfnod tebyg eto?

"Un o'r pethau oedd yn bwysig i mi pan es i ati i greu y sioe lwyfan oedd i adrodd yr hanes i gynulleidfa iau. Adrodd hanes dyn ifanc o gefndir di-Gymraeg y De-ddwyrain yn darganfod ei lais. Trwy gyfarfod â phobol tebyg, fe 'naethon ni ddarganfod ein bod ni fel pobol ifanc yn gallu cymryd yr awenau a darganfod cynulleidfa

"Mae'n bwysig iawn fod pob cenhedlaeth yn darganfod cyfrwng i fynegi eu syniadau a'u dyheadau. Y neges bwysica', yn fy marn i, yw i jest neud rhywbeth - gigs, podcasts, perfformiadau, celf, gwefannau ayyb. Peidiwch â disgwyl i'r cyfryngau ofyn i chi - jest gwnewch! Roedd gyda ni gaséts a pheiriannau Zerox. Mae gan bobol ifanc heddi bob math o dechnoleg i greu chwyldro."

Mae yna lot o sôn heddi bod yna ddifaterwch ymhlith pobl ifanc mewn ysgolion uwchradd Cymraeg am y diwylliant roc a phop Cymraeg. Oedd yr un peth yn wir yn dy gyfnod di yn yr ysgol?

"Roedd lot o bobol yn ffurfio bandiau yn Rhydfelen ac roedd gigs a disgos yn cael eu trefnu'n aml. Weles i Trwynau Coch, Eliffant, Derec Brown, Crys, Bando, Jarman ac roedd cyfle i fandiau'r ysgol eu cefnogi nhw. Doeddwn i ddim yn hoffi pob grŵp - ond roedd e'n bwysig i weld nad oedd y Gymraeg jest yn rhywbeth ar gyfer gwersi. Mae'n hawdd bod yn negyddol - ond mae'n rhaid ysgogi pobol i greu diddordeb. Fe ddangosodd y sîn i mi fod rhywbeth tu hwnt i fyd dosbarth canol yr ŵyl gerdd dant a chorau'r Eisteddfod."

Beth wnaeth dy ysgogi di i ymwneud â phethau yn Gymraeg?

"Y ffaith mod i'n bored gydag adloniant yn Gymraeg pan o'n i'n ifanc. Y teimlad mod i'n gallu neud yn well a chyfrannu at y diwylliant."

Rwyt ti bellach yn DJ poblogaidd. Sut wyt ti'n llwyddo i gadw dy chwaeth gerddorol mor ffres? Ti ddim yn cael dy demptio i chwarae CD John ac Alun a thyfu'n hen a pharchus?

"Dwi o hyd yn chwilio am stwff newydd, diddorol i wrando arno. Mae fy chwaeth yn llawer ehangach na beth ydw i'n chwarae mewn disgos. Rwy'n hoffi gwrando ar beth mae DJ's eraill yn ei chwarae a phob tro dwi'n chwarae, yn trio cyflwyno traciau newydd i'r dawnswyr. Os oedd record John ac Alun o'n i'n hoffi, baswn i'n ei whare fe."

Ar ôl Gadael yr 20fed Ganrif, beth fydd y prosiect mawr nesa i ti?

"Hoffwn i greu sioe un dyn newydd cyn hir. 'Dwi hefyd wedi bod yn gweithio ar nofel ac yn ceisio creu deunydd ar gyfer sianel YouTube."

Beth yw'r frawddeg sydd yn diffinio dy agwedd tuag at fywyd?

"Jest gwnewch e. A gwnewch e nawr!"

Gadael yr 20fed Ganrif, S4C, Nos Sadwrn, Awst 30 21:00

Mae oriel luniau o fandiau ac unigolion allweddol y cyfnod mae Gareth yn cyfeirio atyn nhw i'w gweld ar wefan BBC Cymru Fyw.

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.