Clwb Caerdydd yn galw am ddiystyru canlyniad gêm Palace

Cardiff City playing Crystal Palace Image copyright Getty Images

Ddylai canlyniad Caerdydd yn erbyn Crystal Palace ddechrau Ebrill, pan gollon nhw o 3-0, ddim cael ei ganiatau meddai'r Adar Gleision.

Maen nhw wedi dweud hyn mewn llythyr 5 tudalen y mae'r BBC wedi ei weld.

Mae'r ddogfen, gafodd ei hanfon gan gyfreithwyr y clwb i'r Uwchgynghrair, yn honni bod pennaeth Crystal Palace, Tony Pulis yn gwybod bod y cyfarwyddwr chwaraeon, Iain Moody yn trio cael gafael ar restr o chwaraewyr Caerdydd cyn y gêm.

Mae Caerdydd yn honni bod ganddyn nhw dystiolaeth fod Iain Moody wedi llwyddo i wneud hyn, ac maen nhw'n dweud bod hyn yn torri rheolau'r gynghrair. Dyw'r BBC ddim wedi llwyddo i gael ymateb gan Palace er bod y clwb wedi gwadu'r honiadau cyn hyn.

Mae Caerdydd yn dweud y dylai clybiau ymwneud â'i gilydd yn ddiffuant ac maen nhw'n honni bod yr hyn ddigwyddodd yn codi cwestiynau ynglŷn ag integrity'r gêm . Maen nhw'n dweud bod Crystal Palace wedi twyllo ac maen nhw eisiau i'r Uwchgynghrair weithredu.