Grant i gynhyrchu llyfrau cyfreithiol
- Cyhoeddwyd

Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor wedi derbyn grant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i arwain prosiect i gyhoeddi gwerslyfrau Cymraeg.
Nod y cynllun yw paratoi llyfrau i fyfyrwyr sy'n astudio'r gyfraith ym mhrifysgolion Cymru yn bennaf, gyda'r llyfrau hynny gan arbenigwyr cydnabyddedig yn y meysydd dan sylw.
Fe fydd y prosiect hefyd yn fodd o gysoni a chreu termau cyfreithiol Cymraeg.
Mae bwrdd golygyddol wedi cael ei benodi i oruchwylio'r gwaith o dan gadeiryddiaeth yr Athro Thomas Watkin.
Daw cefnogaeth i'r fenter hefyd gan arbenigwyr o wasanaethau cyfreithiol y llywodraeth, y farnwriaeth ac o'r proffesiynau.
Eisoes mae cytundeb gydag awdur y gyfrol gyntaf yn y gyfres, Keith Bush, sef cyfrol ar Gyfraith Gyhoeddus.
Mae Mr Bush yn gyn brif gynghorydd cyfreithiol i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac mae hefyd yn gyfarwyddwr Sefydliad Cymru'r Gyfraith.
'Diffyg llyfrau'
Rheolwr y prosiect yw Carys Aaron, sydd hefyd yn ddarlithydd rhan-amser yn Ysgol y Gyfraith ym Mangor, a dywedodd:
"Fel mewn cynifer o feysydd, mae'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer israddedigion ym maes y gyfraith wedi bod yn ymylol.
"Nododd yr Athro Gwynedd Parry yn ei gyfrol Cymru'r Gyfraith mai'r 'maen tramgwydd sylfaenol yw diffyg llyfrau ... i egluro'r gyfraith yn Gymraeg'.
"Bwriad pennaf y prosiect hwn yw ateb y galw hwnnw, fel y gall ein prifysgolion baratoi cenhedlaeth newydd o gyfreithwyr, bargyfreithwyr ac ymarferwyr cyfreithiol eraill a fydd yn gyfforddus a hyderus ddwyieithog."
Straeon perthnasol
- 7 Ebrill 2014
- 21 Mawrth 2014
- 28 Chwefror 2014