BBC yn adlewyrchu Cymru'n well meddai'r Arglwydd Patten
- Cyhoeddwyd

Mae Cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC wedi dweud bod "cynnydd da" wedi ei wneud i sicrhau bod materion sydd wedi eu datganoli yn cael eu hadlewyrchu ar raglenni newyddion y BBC ar draws Prydain.
Roedd yr Arglwydd Patten yn ymateb i feirniadaeth gan Aelodau'r Cynulliad o'r ffordd mae materion Cymreig wedi eu trafod ar raglenni Newsnight a Question Time yn y gorffennol.
Casgliad adroddiad gan yr Athro Anthony King yn 2008 oedd bod yna ddiffygion yn y modd roedd gorfforaeth ar lefel Brydeinig yn rhoi sylw i ddatblygiadau o ran datganoli.
Dywedodd yr AC Llafur Leighton Andrews fod "camgymeriadau elfennol" yn dal i gael eu gwneud 15 mlynedd ers i ddatganoli ddechrau.
"Dw i ddim eisiau honni nad oes problemau'n dal i fodoli" meddai'r Arglwydd Patten a dywedodd bod yna fwy o waith i'w wneud eto ar y mater.
Ond dywedodd Ymddiriedolwr y BBC dros Gymru, Elan Closs Stephens bod yna "welliant" wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf.
Roedd yr Arglwydd Patten ac Elan Closs Stephens yn rhoi tystiolaeth ym Mhwyllgor Cymunedau a Chydraddoldeb y Cynulliad.
Mwy o fiwrocratiaeth?
Mae'r pwyllgor yn edrych ar ddyfodol y cyfryngau yng Nghymru ac wrthi'n casglu tystiolaeth.
Gofynnodd yr AC Plaid Cymru Rhodri Glyn Thomas am eu hymateb i sylwadau diweddar Llywydd y Cynulliad, Y Fonesig Rosemary Butler.
Mae hi wedi awgrymu nad oes gan Gymru lais digon cryf ar fwrdd Ymddiriedolaeth y BBC a bod angen corff llywodraethu yn benodol ar gyfer Cymru o fewn fframwaith yr ymddiriedolaeth.
Dyna oedd un o argymhellion y Comisiwn Silk. Dyw'r Arglwydd Patten ddim yn cytuno gyda'r syniad. Dywedodd y gallai hyn wneud y drefn yn "or-fiwrocrataidd".
Roedd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, yr Arglwydd Hall a Chyfarwyddwr Cymru, Rhodri Talfan Davies hefyd yn ateb cwestiynau gan ACau yn ystod y bore.
Dywedodd yr Arglwydd Hall fod "cyfnod torri nôl gam wrth gam bach yn dod i ben" ac yn y dyfodol y bydd yn rhaid gofyn a yw'r gorfforaeth yn medru parhau i wneud yr holl bethau mae hi wedi bod yn eugwneud.
Adolygu Question Time
Wrth drafod Question Time oedd yng Nghasnewydd yn ddiweddar dywedodd y byddai yn edrych ar y mater. Roedd beirniadaeth am y rhaglen am mai dim ond un o'r panelwyr oedd yn dod o Gymru ac un mater yn ymwneud yn benodol â Chymru gafodd ei drafod.
Ategodd Rhodri Talfan Davies sylwadau'r tystion eraill fod pethau yn gwella o safbwynt adlewyrchu bywyd Cymru ar lefel Brydeinig. Dywedodd bellach fod rhai rhaglenni sydd yn cael eu gwneud yng Nghymru bellach ar y rhwydwaith. Ychydig flynyddoedd yn ol "yn syml doedd hynny ddim yn digwydd" meddai.
Dywedodd hefyd fod canolfan ddrama Porth y Rhath ym Mae Caerdydd nid yn unig wedi bod yn hwb economaidd ond hefyd wedi golygu nad ydy talent o Gymru bellach yn gorfod teithio i Lundain neu America er mwyn datblygu eu gyrfa.
Yn ddiweddar mae S4C wedi cyhoeddi y bydd yn symud ei phencadlys i Gaerfyrddin. Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru fod angen edrych yn fanwl ar y sylw sydd yn cael ei rhoi i Orllewin Cymru ar y BBC a bod angen "trafodaeth i wneud mwy yng ngorllewin Cymru".
Straeon perthnasol
- 1 Ebrill 2014
- 21 Hydref 2013
- 17 Hydref 2013