Arestio dau ar amheuaeth o dwyll a phrosesu arian anghyfreithiol

Mae perchennog Clwb Rygbi Castell-nedd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o dwyll a phrosesu arian anghyfreithiol.

Cafodd Geraint Hawkes, 47 oed, a dyn arall eu harestio ddydd Mercher.

Dywedodd yr heddlu: "Cafodd dyn 44 oed a dyn 47 oed o ardal Abertawe eu harestio ar amheuaeth o dwyll a phrosesu arian anghyfreithiol.

"Mae'r ddau yn y ddalfa ac yn helpu'r heddlu gyda'u hymholiadau."