Chwarter yn ennill llai na'r Cyflog Byw

Arian
Image caption Mae'r cyflog byw £1.14 yn uwch na'r isafswm cyflog ar gyfer pobl dros 21

Mae TUC Cymru wedi cyhoeddi ffigyrau sy'n dweud bod bron i chwarter y swyddi yng Nghymru yn talu llai na'r 'Cyflog Byw'.

Fe ddaw'r cyhoeddiad yn dilyn dadansoddiad TUC Cymru o ffigyrau swyddogol o lyfrgell Tŷ'r Cyffredin, ac maen nhw wedi cyhoeddi'r wybodaeth i nodi 15 mlynedd ers cyflwyno'r isafswm cyflog yn y DU.

Dywed y mudiad bod 23% o swyddi yng Nghymru yn talu llai na'r Cyflog Byw, sef y ganran uchaf o dan y lefel yna o unrhyw ranbarth neu wlad arall yn y DU.

Mae'r dadansoddiad hefyd yn dangos yr ardaloedd gwaethaf o fewn Cymru, sef Dwyfor Meirionnydd (39.9%) a Rhondda (39.7%), o safbwynt nifer y swyddi sydd o dan lefel Cyflog Byw.

Safon sylfaenol

Mae'r Cyflog Byw yn cael ei hybu gan y Sefydliad Cyflog Byw ac mae'n galw ar i weithwyr dderbyn yr isafswm cyflog maen nhw ei angen er mwyn gallu talu am safon byw sylfaenol.

Ar hyn o bryd mae wedi ei osod ar £7.45 yr awr ar gyfer ardaloedd heblaw Llundain.

Mae hynny'n uwch na'r isafswm cyflog statudol ar hyn o bryd, sef £6.31 yr awr i weithiwr dros 21 oed, £5.03 i weithiwr rhwng 18 a 20 oed a £3.72 i weithiwr o dan 18 oed.

Yn ôl y TUC, mae ffigyrau ar y pegwn arall yn dangos bod cyn lleied â 5% o weithwyr mewn rhannau o dde ddwyrain Lloegr yn ennill llai na Chyflog Byw.

'Cyflogau'n cael eu gwasgu'

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Martin Mansfield:

"Mae teuluoedd sy'n gweithio yn teimlo'r pwysau mwyaf ar eu safonau byw ers Oes Fictoria.

"Mae cyflogau'n cael eu gwasgu ar bob lefel islaw ystafell y bwrdd ac mae'n costio'n ddrud i'n heconomi.

"Bellach mae nifer y cyflogwyr sy'n talu Cyflog Byw yn tyfu ac mae undebau yn arwain y ffordd wrth annog mwy o gyflogwyr i ymuno fel rhan o ddêl decach yn y gweithle.

"Mae angen i weithwyr yng Nghymru weld ymrwymiad cadarnach i'r Cyflog Byw gan gyflogwyr ac mae angen i Lywodraeth y DU weithredu nawr i gyflwyno cynghorau cyflog sy'n gallu gosod isafswm cyflogau mewn diwydiannau sy'n gallu fforddio talu mwy i'w gweithwyr."

Wrth drafod Cyflog Byw ar ddiwedd 2013, dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol Lesley Griffiths:

"Wrth ddangos ein hymrwymiad i bob gweithiwr yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r syniad o Gyflog Byw fel ffordd o fynd i'r afael â rhai o'r materion sydd yn gysylltiedig â thâl isel a thlodi incwm."

Ond mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi bod yn feirniadol o'r syniad, gan ddweud y byddai'n rhaid i nifer o gyflogwyr llai ddiswyddo staff er mwyn talu cyflogau uwch i eraill.

Straeon perthnasol