Carwyn Jones: Llafur yn 'brwydro nôl'

Carwyn Jones

Mae'r Blaid Lafur yn brwydro yn ôl yn erbyn "ymosodiadau" y Ceidwadwyr ar Gymru, dyma oedd neges y Prif Weinidog Carwyn Jones, yn ystod ei araith yng nghynhadledd y Blaid Lafur Gymreig yn Llandudno.

Mynnodd fod ei blaid yn brwydro yn ol yn erbyn yr "ymosodiadau" ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, y system addysg, ar yr iaith Gymraeg ac ar y broses o ddatganoli.

Yn gynharach, dywedodd Ed Miliband y byddai ei blaid yn ymestyn pwerau datganoli yng Nghymru petai'n ennill yr Etholiad Cyffredinol nesa yn 2015.

Dywedodd y byddai'n deddfu fel bod pwerau datganoli'n cael eu cymryd yn ganiataol, oni bai eu bod yn cael eu nodi'n wahanol.

'Dal Cymru yn ôl'

Dywedodd Mr Jones bod y Ceidwadwyr yn credu bod yr "iaith Gymraeg yn dal Cymru yn ol. Pan maen nhw'n ymosod ar yr iaith Gymraeg maen nhw'n ymosod ar Gymru'n gyfan gwbl. Dyna pam dwi'n dweud taw Rhyfel y Torïaid ar Gymru yw hyn."

Mynnodd hefyd bod Llywodraeth San Steffan yn ymosod yn ddyddiol ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru a'u gweithwyr.

Cyfaddefodd bod 'na enghreifftiau o ofal gwael o fewn y gwasanaeth, oedd meddai ef yn "annerbyniol".

Dywedodd bod amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig yn "rhy hir i ormod o bobl". Dywedodd hefyd bod 'na ormod o enghreifftiau o ymddygiad "hunanfodlon" ymhlith rhai byrddau iechyd lleol ac y byddai systemau cwynion cymhleth yn cael eu diwygio.

Ond dywedodd Mr Jones bod ymdrechion ar y gweill i fynd i'r afael ag achosion o ganser a bod nifer y bobl sy'n gwella yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol wedi cynyddu o 60% i 70% ers datganoli. Dywedodd hefyd ei fod am sicrhau gwelliannau i fywydau cleifion sydd wedi cael strôc.

"Mae 4,000 yn rhagor o nyrsys yn cael eu cyflogi yng Nghymru ers 1999," dywedodd Mr Jones, "a 1,000 yn rhagor o arbenigwyr hefyd".

Yn ôl Carwyn Jones, ers etholiad y Cynulliad yn 2011, mae ei lywodraeth wedi gwasanaethu pobl Cymru gan sicrhau bod diweithdra yma yn is na'r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Dywedodd bod y cynulliad wedi creu 11,000 o swyddi i bobl ifanc ar hyd a lled Cymru.

Datganoli pellach

Yn gynharach yn y gynhadledd fore Sadwrn cyhoeddodd arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, y byddai ei blaid yn ymestyn pwerau datganoli yng Nghymru petai'n ennill yr Etholiad Cyffredinol nesa yn 2015.

Addawodd y byddai llywodraeth Lafur yn sicrhau llai o ddryswch ynglŷn â phwerau'r Cynulliad.

Dywedodd wrth y gynhadledd y byddai'n deddfu fel bod pwerau datganoli'n cael eu cymryd yn ganiataol, oni bai eu bod yn cael eu nodi'n wahanol.

Dywedodd Mr Miliband y byddai hyn yn sicrhau bod Cymru yn yr un sefyllfa â'r Alban.

Cafodd y cynllun ei gynnig gan ail ran o ymchwiliad Comisiwn Silk i ddatganoli yng Nghymru.

Yn ychwanegol, dywedodd Mr Miliband bod Llywodraeth Cymru yn dangos y gwahaniaeth y gallai ei blaid gyflawni, ond roedd yn cydnabod bod y gwasanaeth iechyd yn parhau i wynebu nifer o heriau.

Daeth ei sylwadau wedi beirniadaeth barhaus o berfformiad y gwasanaeth iechyd yng Nghymru gan weinidogion Ceidwadol Llywodraeth Prydain.

'Ail gydio mewn bröydd Cymraeg'

Mewn cyfarfod yn ystod y gynhadledd bu Cymdeithas Cledwyn yn trafod y thema o "Ail gydio yn y Bröydd Cymraeg".

Dywedodd un o'r siaradwyr, y cynghorydd Llafur Sion Jones, bod Llywodraeth Cymru'n gyfrifol am yr iaith a'r "dasg heriol i ddatblygu polisïau perthnasol i ddatblygu'r iaith".

Yn ôl y cynghorydd dros ardal Bethel yng Ngwynedd, mynnodd bod rhaid i'r Blaid Lafur ddangos "ymrwymiad i'r iaith", a bod rhaid i'r broses honno ddechrau'n fewnol o fewn y blaid drwy sicrhau bod dogfennau dwyieithog yn cael eu defnyddio.

Ychwanegodd bod angen edrych yn fanylach ar effaith dogfen polisïau cynllunio Tan 20 ar yr iaith a bod angen i'r Blaid Lafur weithio'n agosach gyda mentrau iaith ac ymgyrchwyr iaith.

Yn ôl un arall o'r siaradwyr, y Farwnes Eluned Morgan, roedd gwaith ymchwil gan Gymdeithas Cledwyn yn 2008 yn dangos bod angen adennill tir yn y bröydd Cymreig.

Dywedodd bod angen cefnogi'r iaith y tu hwnt i waliau ysgolion, mewn tafarndai ac ar feysydd chwarae. Roedd hefyd am weld defnydd o'r iaith sy'n llai ffurfiol.

Straeon perthnasol