URC yn ymestyn benthyciad i'r rhanbarthau

lansiad pro 12 Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cynigiodd URC fenthyciad brys o £660,000 i'r rhanbarthau ym mis Chwefror

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi ymestyn trefniant benthyciadau gyda'r pedwar rhanbarth Cymreig.

Mae datganiad gan yr undeb yn dweud mai'r bwriad yw cynorthwyo'r rhanbarthau gyda'u llif arian tra bod trafodaethau yn parhau gyda Chwpan Rygbi Ewrop (yr ERC).

Cynigiodd URC fenthyciad brys o £660,000 ym mis Chwefror.

Yn ôl Undeb Rygbi Cymru roedd y benthyciad hwnnw i fod i gael ei ad-dalu erbyn 31 Mawrth, ond bydd cyfnod y benthyciad nawr yn cael ei ymestyn.

Mae'r rhanbarthau - Gleision Caerdydd, Dreigiau Gwent, y Gweilch a'r Scarlets - yn disgwyl am daliad gan ERC am chwarae yn y Cwpan Heineken y tymor hwn.

Straeon perthnasol