Mamau beichiog yn smygu'n effeithio ar 11,000 o fabanod

Smygu tra'n feichiog
Image caption Dywedodd yr elusen fod 33% o fenywod beichiog yng Nghymru yn smygu ar ryw adeg yn ystod eu beichiogrwydd.

Mae dros 11,000 o fabanod yn cael eu heffeithio bob blwyddyn yng Nghymru gan famau sy'n smygu yn ystod eu beichiogrwydd, yn ôl elusen iechyd.

Yn ôl gwaith ymchwil Action on Smoking and Health (ASH) Cymru, mae Cymru ar frig rhestr gwledydd Prydain o ran nifer y menywod sy'n smygu yn ystod eu beichiogrwydd.

Dywedodd yr elusen fod 33% o fenywod beichiog yng Nghymru yn smygu ar ryw adeg yn ystod eu beichiogrwydd. Cyfartaledd y Deyrnas Unedig yw 26%.

Yn ôl ASH Cymru, mae hyn yn achosi perygl niwed gan dybaco i 11,864 o fabanod heb eu geni bob blwyddyn.

'33% o fenywod'

Dywedodd Elen de Lacy, prif weithredwr yr elusen: "Trist yw dweud bod Cymru'n dal i fod â'r gyfradd uchaf o ran smygu yn ystod beichiogrwydd yn y Deyrnas Unedig gyfan.

"Mae rhoi'r gorau i smygu yn anodd beth bynnag ond gyda phwysau ychwanegol cael baban mae'n her ddwbl.

"Dyna pam mae cymorth ychwanegol yn hanfodol i fenywod beichiog i'w helpu i roi'r gorau iddi.

"Gall bydwragedd ac ymwelwyr iechyd feithrin cydberthynas agos gyda menywod, yn y cartref ac yn y gymuned, ac yn aml nhw sydd yn y lle gorau i helpu menywod drwy gydol eu beichiogrwydd ac wedi hynny."

Treialu

Mae pedwar o fyrddau iechyd Cymru wedi bod yn treialu cynllun iechyd newydd o'r enw 'MAMSS' (Modelau Mynediad i Roi'r Gorau i Smygu ymysg Mamau).

Mae'r prosiect yn defnyddio gweithwyr iechyd fel bydwragedd a gweithwyr cymorth mamolaeth i helpu menywod i roi'r gorau i smygu.

Rhoddodd Samantha Paul o Ben-y-bont ar Ogwr y gorau i smygu pan oedd yn feichiog â'i hail blentyn, gyda chymorth prosiect MAMSS.

Dywedodd: "Ro'n i'n smygu rhwng 10 ac 20 sigaréet y dydd ac ro'n i'n gwybod bod rhaid i fi roi'r gorau iddi ond o'n i ddim yn gallu ei wneud ar 'y mhen yn hun.

"Roedd yr help ges i gan fy mydwraig Julie yn wych. Daeth hi i'r tŷ a helpodd fi drwyddi. Dywedodd wrthyf i y bydden ni'n pennu dyddiad i roi'r gorau iddi a helpodd fi i baratoi trwy'r wythnos am y diwrnod hwnnw.

"Ces i anadlydd a phatsis ac o fewn dau ddiwrnod ro'n i wedi rhoi'r gorau iddi a dwi ddim wedi smygu ers hynny ond mae hi'n dal i ffonio i ofyn sut mae pethe'n mynd gyda fi.

"Roedd y darlleniadau ar y monitor carbon deuocsid yn codi ofn arna' i oherwydd yr hyn oedd yn mynd drwodd i'r babi - 18 oedd y darlleniad o'r bla'n ond nawr mae i lawr i 2. Alla' i ddim goddef hyd yn oed gwynt mwg erbyn hyn!''

"Dwi ddim eisiau smygu eto ond dwi'n poeni oherwydd dyna beth ddigwyddodd ar ôl i fy mhlentyn cyntaf gael ei eni. Dwi'n meddwl bod cymorth i famau ar ôl yr enedigaeth yr un mor bwysig ag y mae cyn i'r babi gael ei eni."

Straeon perthnasol