60% yn fwy o sbwriel ar draethau Cymru

Beach litter
Image caption Fe gafodd 30,000 o eitemau eu canfod yn ystod un penwythnos ar 25 traeth yng Nghymru

Mae arolwg gan grŵp ymgyrchu Cymdeithas Warchod y Moroedd (MCS) wedi canfod cynnydd yn y sbwriel ar draethau Cymru.

Fe gafodd 30,000 o eitemau yn cynnwys rhan o deledu eu canfod yn ystod un penwythnos ar 25 traeth yng Nghymru - bron i ddwbl y cyfartaledd ledled Prydain.

Fe ddywedod MCS bod y cynnydd yn peryglu diogelwch ymwelwyr.

Ond yn ôl Cadwch Gymru'n Daclus, doedd y ffigyrau ddim yn adlewyrchiad teg o gyflwr traethau'r genedl.

4,400 eitem

Fe dreuliodd gwirfoddolwyr MCS penwythnos fis Medi y llynedd yn casglu sbwriel ar draethau ledled Cymru.

Roedd mwy na 4,400 eitem i bob cilomedr - ffigwr sydd, yn ôl y grŵp, lawer yn waeth na'r cyfartaledd ym Mhrydain.

Darnau plastig oedd ymysg y sbwriel mwya' cyffredin - darnau bychain oedd wedi bod yn y môr ers degawdau.

Fe ddywedodd MCS bod yr arolwg yn awgrymu bod lefelau sbwriel ar draethau Cymru yn waeth nag erioed o'r blaen, ac wedi cynyddu 60% yn 2013.

Meddai Gill Bell o MCS Cymru: "Mae'n dod o'r môr, yn cael ei chwythu o'r tir, neu yn cael ei adael yno. Wedi 20 mlynedd o ymgyrchu mae'n ddigalon gweld lefelau sbwriel gwaeth nag erioed yng Nghymru yn 2013."

Fis Mehefin, bydd y Gymdeithas yn lansio rhwydwaith i geisio newid agwedd pobl am y broblem.

'Anghywir a chamarweiniol'

Ond fe alwodd Cadwch Gymru'n Daclus yr adroddiad yn gamarweiniol ac anghytbwys, gan ddweud ei fod wedi ei seilio ar un penwythnos y tu allan i dymor ymwelwyr, gan ymweld â dim ond 25 o 105 o draethau Cymru.

Fe ddywedodd yr elusen bod posibilrwydd cryf y gallai'r tywydd fod wedi dylanwadu ar arolwg o'r fath. Meddai, petai'r arolwg wedi cael ei gynnal ar draethau'n wynebu'r gogledd gyda llanw cyflawn, fe fydden nhw wedi dangos nad oes problem sbwriel ar draethau Cymru.

Yn ôl prif weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus, Lesley Jones: "Rydyn ni'n siomedig gyda'r modd y mae MCS wedi cynnal eu harolwg ac rydym ni'n credu bod y canlynidau'n anghywir a chamarweiniol.

"Fel elusen amgylcheddol yng Nghymru, yn amlwg, dydyn ni ddim yn hunanfodlon a 'dy ni'n gwybod fod sbwriel yn cyrraedd ein traethau o'r môr, o'r afonydd neu'n cael ei adael yno - mae'n broblem sydd angen ei datrys a 'dy ni'n ei datrys hi.

"Rydyn ni angen herio pobl, ond nid datganiadau fel hyn... yw'r ffordd i wneud hynny."

Straeon perthnasol