Penodi Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Cyhoeddwyd

Yr Athro Trevor Purt yw Prif Weithredwr newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Daeth y cyhoeddiad brynhawn dydd Mawrth. Mae'r Athro Purt yn gwneud yr un swydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar hyn o bryd.
Mae disgwyl iddo symud i ogledd Cymru i ddechrau ei swydd newydd fis Mehefin eleni.
Dywedodd Trevor, a ymunodd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ym mis Medi 2009: "Rwy'n drist fy mod i'n gadael gan i mi fwynhau fy amser gyda'r Bwrdd Iechyd Prifsgol yn fawr. Ond teimlaf mai dyma'r amser i wynebu her newydd yn y gogledd.
"Rydym wedi mynd ymhell yn ystod y pedair blynedd a hanner diwethaf ac mae rhagor i'w wneud o hyd i sicrhau bod Hywel Dda yn sefydlu'r gwasanaethau iawn yn y lle iawn er mwyn darparu gofal iechyd o'r radd flaenaf.
"Mae gen i bob ffydd yn fy nghyfarwyddwyr gweithredol, y tîm rheoli ehangach, ac yn Karen Howell a fydd yn gweithredu fel prif weithredwr dros dro er mwyn parhau i sicrhau bod ein gwasanaethau'n datblygu.
"Rydym wedi wynebu sawl her, a hoffwn ddiolch yn bersonol i'r holl staff am eu hymrwymiad - chi yw ased pwysicaf y bwrdd iechyd prifysgol."
'Amseroedd anodd'
Dywedodd Chris Martin, cadeirydd y bwrdd: "Trevor oedd prif weithredwr y bwrdd iechyd integredig newydd a llwyddodd i arwain y sefydliad drwy amseroedd anodd.
"Yn ystod ei amser wrth y llyw rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol o safbwynt ansawdd a pherffomiad dan ei arweiniad cadarn. Mae'n ddrwg gennym ei weld yn gadael ond dymunwn bob lwc iddo yn ei rôl newydd."
Fe gamodd cadeirydd a phrif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o'r neilltu fis Mehefin y llynedd wedi cyhoeddiad adroddiad beirniadol.
Fe wnaeth ymchwil ddarganfod "methiannau rheoli sylweddol" o fewn y bwrdd iechyd a bod hynny'n rhoi iechyd cleifion mewn perygl.
Fis Medi fe gafodd Dr Peter Higson ei benodi'n gadeirydd newydd ar y bwrdd.
Straeon perthnasol
- 10 Rhagfyr 2013
- 6 Medi 2013
- 27 Mehefin 2013