'Gwendidau rheoli' cynllun Llywodraeth

Canolfan Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth
Image caption Roedd canolfan Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth yn un o dri newydd oedd yn rhan o'r Strategaeth Leoli

Fe lwyddodd Strategaeth Leoli Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hamcanion, ond mae ansicrwydd am werth-am-arian y cynllun yn ôl adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol.

Bwriad y cynllun oedd adleoli dros 550 o swyddi allan o Gaerdydd i swyddfeydd newydd ym Merthyr Tudful, Aberystwyth a Chyffordd Llandudno, ac fe lwyddwyd i wneud hynny erbyn Ebrill 2012.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cwblhau'r adeiladau newydd i'r safon ddisgwyliedig ac o fewn y costau y cytunwyd arnynt, ond fe ddywed yr adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru bod y costau yna'n fwy na'r amcangyfrif gwreiddiol yn yr achosion busnes.

Fe gostiodd y tri chynllun adeiladu fwy na'r amcangyfrifon yn yr achosion busnes - o £137.4m yn 2004 i £171m yn 2006.

Aiff yr adroddiad ymlaen i ddweud na wnaeth Llywodraeth Cymru roi digon o ystyriaeth i ddewisiadau eraill, nad oedd amcangyfrifon cadarn ar gyfer costau'r cynllun ac nad yw Llywodraeth Cymru'n monitro holl fuddiannau parhaus y rhaglen.

Llai wedi symud

Diben yr adroddiad Strategaeth Leoli yn 2002 oedd datganoli gwasanaethau o Gaerdydd er mwyn bod "yn agosach at bobl Cymru".

Ond mae'r adroddiad a gyhoeddwyd ddydd Mawrth yn dweud na ddechreuodd Llywodraeth Cymru roi trefniadau llywodraethu effeithiol ar waith ar gyfer y cynllun tan 2008.

Daw'r adroddiad hefyd i'r casgliad bod llai o staff wedi symud o Gaerdydd i'r swyddfeydd newydd nag a gynlluniwyd.

Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod y rhaglen wedi'i chyflawni mewn cyfnod o newid mawr oedd yn cynnwys uno pedwar o gyrff yn 2006 a cholli mwy na 1,000 o staff drwy gynlluniau diswyddo gwirfoddol rhwng 2008 a 2012.

Roedd trafferthion llenwi safleoedd Aberystwyth a Chyffordd Llandudno yn enwedig ac erbyn Rhagfyr 2013 roedd canolfan Aberystwyth 70% yn llawn a Chyffordd Llandudno 88% yn llawn.

Argymhellion

Mae adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn gwneud nifer o argymhellion gan gynnwys :-

  • Cryfhau'r ffordd y mae'n nodi ac yn gwerthuso opsiynau i lywio penderfyniadau pwysig ynghylch sut y dylid cyflawni ei hamcanion strategol, fel cynnal gwerthusiadau o opsiynau a dadansoddiadau cost a budd yn unol â chanllaw Llyfr Gwyrdd y Trysorlys;
  • Dylid cynnal trosolwg strategol effeithiol o brosiectau a rhaglenni mawr a chraffu arnynt yn yr un modd, gan roi trefniadau llywodraethu a rheolaethau ariannol cadarn ar waith;
  • Ar ddechrau unrhyw raglen neu brosiect, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y manteision a ragwelir wedi'u sefydlu'n glir, eu bod yn realistig ac y gellir eu cyflawni, a dylai lunio a chyflawni strategaeth sicrhau manteision.

'Gwendidau rheoli'

Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:

"Mae Strategaeth Leoli Llywodraeth Cymru wedi sicrhau rhai manteision amlwg gan gynnwys arbedion effeithlonrwydd, amgylchedd gwaith da ar gyfer y staff sydd wedi adleoli, a manteision economaidd i economi Cymru.

"Fodd bynnag, ni all Llywodraeth Cymru ddangos y gwerth am arian cyffredinol ar gyfer y Rhaglen, yn bennaf oherwydd y gwendidau yn y ffordd y cafodd ei rheoli cyn 2008."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Rydym yn falch bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi canfod ein bod wedi cyflawni amcanion y Strategaeth Leoli - i ddatganoli gwasanaethau o Gaerdydd gan ddod â nhw'n agosach at bobl Cymru.

"Fe fyddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ac yn ymateb iddo maes o law."

'Testun pryder'

Wrth ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol:

"Wrth gynllunio unrhyw raglen sylweddol o wariant cyhoeddus, mae'n hanfodol bod trefniadau gwerthuso cadarn ar waith drwyddi draw.

"Yn yr achos hwn, cyflawnodd Llywodraeth Cymru ei nod o ddatganoli staff drwy symud aelodau staff rhwng swyddfeydd, cau swyddfeydd ac adeiladu swyddfeydd newydd o amgylch Cymru, yn benodol, yn Aberystwyth a Llandudno.

"Fodd bynnag, mae'r ffaith na all ddangos gwerth am arian ar gyfer prosiect sy'n costio bron i £100 miliwn i'w weithredu, yn destun pryder.

"Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn edrych yn fwy manwl ar yr adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol agos."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.