Joanne Mjadzelics: Gwadu cyhuddiadau

Mjadzelics
Image caption Mae Ms Mjadzelics yn gwadu'r saith cyhuddiad

Mae achos Joanne Mjadzelics wedi cael ei gyfeirio i Lys y Goron, yn dilyn gwrandawiad yn Llys yr Ynadon, Caerdydd.

Mae Ms Mjadzelics, 38, yn wynebu chwe chyhuddiad sy'n ymwneud â meddu ar a dosbarthu lluniau anweddus o blant, ac un cyhuddiad o annog rhywun arall i ddosbarthu llun anweddus o blentyn.

Dywedodd Angela Ricciardi o Wasanaeth Erlyn y Goron bod y cyhuddiadau yn dilyn Ymgyrch Globe, ymchwiliad i'r canwr, Ian Watkins.

Ychwanegodd y dylai'r achos gael ei gyfeirio i Lys y Goron gan fod rhai o'r lluniau yn rhai lefel pedwar.

Fe wnaeth Ms Mjadzelics bledio'n ddieuog i'r saith cyhuddiad a bydd hi'n ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd ar Ebrill 7.

Straeon perthnasol