Carchar Rhuthun i ymddangos ar y sgrîn fawr

Carchar Rhuthun Image copyright Cyngor Sir Ddinbych
Image caption Mae Carchar Rhuthun yn cymryd lle carchar Holloway yn y ffilm

Bydd Carchar Rhuthun yn ymddangos mewn ffilm am fywyd y swffragét Emmeline Pankhurst.

Yr actores Meryl Streep fydd yn chwarae rhan Emmeline Pankhurst a bydd Helena Bonham Carter hefyd yn ymddangos yn y ffilm.

Bu criw ffilmio yn y carchar yn ddiweddar yn ffilmio golygfeydd tu fewn i'r adeilad.

Mae'r carchar ar agor fel amgueddfa am ran o'r flwyddyn ac mae hefyd yn gartref i wasanaeth Archifau Sir Ddinbych.

Dywedodd Jane Brunning, Uwch Archifydd, bod y carchar wedi ei adeiladu yn 1866 i'r un dyluniad â charchar Pentonville yn Llundain.

"Ond yn y ffilm mae Carchar Rhuthun yn cymryd rhan carchar Holloway gan nad oedd Holloway ar gael oherwydd ei fod dal yn cael ei ddefnyddio fel carchar," meddai.

Image copyright Cyngor Sir Ddinbych
Image caption Adeiladwyd y carchar yn 1866

"Mae Carchar Rhuthun yn cael ei ddefnyddio oherwydd ei bod yn garchar nodweddiadol 19eg ganrif."

Cafodd Emmeline Pankhurst ei charcharu yn Holloway sawl gwaith wrth iddi ymgyrchu i ennill y bleidlais i ferched.

Dywedodd Ms Brunning ei bod wedi mwynhau gweld y ffilmio er nad oedd sêr y ffilm yn bresennol.

"Roedd y diwrnod o ffilmio yn eithaf cyffrous ond yn ddiwrnod hir iawn, yn dechrau am 6am a gorffen am 4pm.

"Alla i ddim aros i weld Carchar Rhuthun ar y sgrîn fawr.

"Bydd yn hwyl ei weld fel rhan o gynhyrchiad mor fawreddog," meddai.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.