Tân ar Ben y Gogarth yn Llandudno fore Iau

Mae swyddogion o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn ceisio rheoli tân ar fynydd Pen y Gogarth yn Llandudno yn ystod bore Iau.

Cafodd yr awdurdodau brys eu galw tua 4:20yb.

Am gyfnod roedd y tân wedi llosgi ardal 300m wrth 100m, ac fe gafodd dau o griwiau tân o orsaf Llandudno eu galw i'r digwyddiad.

Dywedodd llefarydd y Gwasanaeth Tân fod criwiau wedi llwyddo i ddiffodd yr ardal lle'r oedd y tân wedi cydio, ond fod y gwaith o gyrraedd rhan o'r mynydd i ddiffodd gweddill y fflamau yn anoddach.

Y gobaith ydi y bydd gweddill y tân yn diffodd ar ei ben ei hun, ac mae swyddogion yn cadw llygad ar y sefyllfa.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.