Marwolaeth Caerdydd: Heddlu'r De yn ymchwilio

Darganfod corff dyn
Image caption Mae Heddlu De Cymru yn archwilio'r safle yn ardal Grangetown, Caerdydd

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i farwolaeth sydyn dyn yn ardal Grangetown yng Nghaerdydd.

Fe gafodd yr heddlu alwad anhysbys ychydig cyn hanner nôs neithiwr, o giosg ar Ffordd Clare.

Daeth yr heddlu o hyd i gorff dyn, yn rhannol yn y dŵr ar lan afon Taf, o dan bont Penarth.

Roedd y dyn wedi dioddef anafiadau i'w ben, ac mae'r safle'n cael ei archwilio ar hyn o bryd.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Kath Pritchard: "Ar hyn o bryd rydan ni'n cadw meddwl agored am beth allai fod wedi digwydd ond mae'r digwyddiad yn cael ei drin fel un amheus.

"Mae'n ymddangos fod y dyn wedi dioddef anaf i'w ben ond fe fydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal nawr i ddarganfod beth oedd achos y farwolaeth.

"Rydym am glywed gan unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad. Fe fyddwn yn erfyn ar y dyn a wnaeth yr alwad o'r ciosg i gysylltu yn ôl gan y gallai fod gyda gwybodaeth sydd yn hanfodol i'n hymchwiliad."

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i alw Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.