Llyfr sain i gofio plismon

Arthur Rowlands Image copyright Arall
Image caption Roedd Arthur Rowlands yn blismon ifanc ym Machynlleth pan gafodd ei saethu yn ei wyneb

Ddydd Iau, mae llyfr sain yn cael ei gyhoeddi i gofio am blismon gafodd ei ddallu yn 1961.

Roedd Arthur Rowlands yn gweithio ym Machynlleth pan gafodd o'i saethu yn ei wyneb gan leidr.

Wedi hynny, fe symudodd i fyw a gweithio i Gaernarfon.

Mae'r llyfr, sy'n cael ei gyhoeddi gan Gymdeithas y Deillion Gogledd Cymru yn adrodd stori Mr Rowlands.

Bu farw yn ei gartref yng Nghaernarfon yn 90 oed fis Rhagfyr 2012.

Ffigwr amlwg

Fe gafodd ei saethu yn ei wyneb ar Awst 2, 1961, pan oedd ar ddyletswydd ger Pont Dyfi.

Ar ôl symud i fyw i Gaernarfon bu'n gweithio i'r gwasanaeth heddlu fel teleffonydd, a buan iawn y daeth yn un o ffigyrau amlycaf a mwyaf hoffus tre'r Cofis.

Wedi marwolaeth Mr Rowlands, fe ddywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu'r Gogledd, Gareth Pritchard, ei fod yn "uchel iawn ei barch" ymhlith pawb oedd yn ei adnabod a bod plismyn oedd heb gwrdd ag o hyd yn oed yn edmygu ei ddewrder ar ôl cael ei saethu.

"Er gwaetha' ei anafiadau, fe ddychwelodd i'w waith gyda Heddlu Gogledd Cymru yng Nghaenarfon ac roedd yn ysbrydoliaeth ac yn ffynhonnell wych o wybodaeth i swyddogion cyn ymddeol yn y diwedd yn ystod y 1980au," meddai Mr Pritchard.

"Bydd yna golled ar ei ôl ond fyddwn ni ddim yn ei anghofio," ychwanegodd.

Darlledu

Fe ddaeth Arthur Rowlands i amlygrwydd fel darlledwr hefyd.

Roedd yn gyfrannwr cyson i raglen Canllaw ar BBC Radio Cymru am flynyddoedd ac roedd yn llais cyfarwydd ar y gwasanaeth.

Straeon perthnasol