Everton 2- 1 Caerdydd

Everton's Ross Barkley and Cardiff's Gary Medel Image copyright Jan Kruger

Everton 2-1 Caerdydd

Colli oedd hanes Caerdydd yn erbyn Everton er iddyn nhw roi popeth i'r gêm.

Dyma oedd un o'i pherfformiadau gorau y tymor yma ac roedd hi'n ymddangos ei bod nhw am gipio pwynt yn ystod gêm llawn tempo.

Gerard Deulofeu sgoriodd gyntaf dros Everton ond mi darodd Caerdydd yn ol wedi 68 munud efo Torres Ruiz yn sgorio.

Ond yn greulon ym munudau olaf yr amser ychwanegol mi sgoriodd Seamus Coleman. Roedd elfen o lwc yn perthyn i'r gol.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Everton yn cipio'r tri phwynt a bod Caerdydd rwan ar waelodion yr uwchgynghrair.

Wyth gêm sydd gan Gaerdydd ar ol ac mi fydd yn rhaid iddyn nhw chwarae efo'r un awch os ydyn nhw am lwyddo i aros i fyny.