Seiclo: Thomas yn dal ar y blaen

Geraint Thomas Image copyright Getty Images
Image caption Geraint Thomas sydd bellach yn arwain ras Paris - Nice

Mae'r seiclwr Geraint Thomas yn parhau i arwain ras feicio Paris-Nice yn Ffrainc ar ddiwedd y pumed cymal.

Cyn y pumed cymal ddydd Iau, roedd Thomas wedi awgrymu y byddai'n canolbwyntio ar rasys aml-gymalog - fel y Tour De France er enghraifft - yn hytrach na rasys byrrach, yn ystod 2015.

Carlos Betancur o Colombia enillodd y pumed cymal wedi iddo arwain grŵp o dri gyda Bob Jungels o Lwcsembwrg a Jakob Fuglsang o Ddenmarc.

Ond yn dilyn ymdrech galed gan y criw oedd y tu ôl iddyn nhw, doedd hynny ddim yn ddigon i godi Betancur uwchlaw Thomas yn y ras gyfan.

Mae Betancur bum eiliad y tu ôl i Thomas yn y pedwerydd safle, gyda'r tri uchaf yn aros yr un fath ag oedden nhw ar ddechrau dydd Iau.

Dydd Gwener bydd y chweched cymal - yr hiraf yn y ras, sef 221.5 km - yn mynd o Saint-Saturnin-lès-Avignon i Fayence.

Mae'r ras yn parhau'n agos dros ben gydag ond 19 eiliad yn gwahanu'r ugain uchaf.

Tri chymal sy'n weddill yn y ras.

RAS FEICIO PARIS NICE - Diwedd cymal 5 o Crêches-sur-Saône i Rive-de-Gier :-

1. Geraint Thomas (SKY)

2. John Degenkolb (GIA) - + 3 eiliad

3. Tom-Jelte Slagter (OGE) - + 4 eiliad

Straeon perthnasol