Savage yn torri record byd

Robbie Savage & Alan Shearer Image copyright BBC / Comic Relief / Jay Brooks
Image caption Mae Robbie Savage ac Alan Shearer, y ddau gyn-chwarewr pêl-droed proffesiynol, yn wynebu'i gilydd ym Mrwydr y Penolau

Mae'r cyn-chwaraewr pêl-droed a'r darlledwr, Robbie Savage, wedi gosod record byd newydd - am eistedd!

Mae'r cyn-chwaraewr rhyngwladol dros Gymru a chanol cae dros Gaerlŷr ac eraill yn cymryd rhan mewn sialens bum-niwrnod ar gyfer Sport Relief, ar y cyd gyda chyn gapten Lloegr, Alan Shearer.

Y dasg heriol i ddechrau oedd gweld faint o seddi y gallen nhw eistedd arnynt mewn munud o amser.

Fe gurodd Savage o un sedd yn unig, wedi iddo eistedd ar 86 o seddi i gyd.

Cyn y digwyddiad, roedd record Llyfr Guiness yn 60 sedd mewn 60 eiliad.

Ar ôl y sialens, fe anfonodd neges drydar: "Dwi'n dal record byd. 86 sedd mewn 1 funud. Dim ond rhyw 15,000 i fynd. "

Brwydr y Penolau!

Mae'r ddau gyn-chwarewyr proffesiynol yn wynebu'i gilydd ym Mrwydr y Penolau - her bum niwrnod i fod y person cyntaf i eistedd ar hanner seddi stadiwm pêl-droed cenedlaethol - tua 45,000 o seddi yr un.

Fe osododd Savage y record yn ystod trydydd diwrnod yr her, ond Shearer sydd ar y blaen yn y sialens fawr.

Roedd cyn ymosodwr Newcastle United wedi creu bwlch o 700 sedd erbyn y pnawn olaf ond un.

Dywedodd Shearer fore Iau: "Mae'n chwerthinllyd o anodd. Ac yn boenus iawn iawn iawn.

"Rydy' ni wedi gwneud bron 30,000 erbyn hyn, mae'n anhygoel o anodd ar bob rhan o'r corff - nid dim ond eich pen ôl."

Mae'r ddau yn codi arian ar gyfer Sport Relief.