Sunnybank: Cyngor Sir Benfro i gau cartref i'r henoed
- Cyhoeddwyd

Yn dilyn ymgynghoriad mae Cyngor Sir Benfro wedi cadarnhau y bydd cartref i'r henoed yn Arberth yn cau.
Mewn cyfarfod o gabinet y cyngor, fe ddywedwyd y byddai'n costio £3m i uwchraddio cartref Sunnybank i'r safonau anghenrheidiol.
Adeiladwyd y cartref yn yr 1960au ac roedd yr adeilad yn gartref i wyth o bobl.
Mae'r penderfyniad yn rhan o gynlluniau'r awdurdod i arbed £20 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf.
Yn gynharach yn y mis cyhoeddodd y cyngor y byddai treth cyngor yn cynyddu o 3.4% yn 2014/15.
Bu cyfnod ymgynghori o 15 wythnos cyn i'r mater ddod gerbron y pwyllgor ddydd Mawrth.
Dywedodd adroddiad i'r awdurdod ym mis Tachwedd y llynedd y byddai'n costio £1000 bob wythnos i gadw'r preswylwyr yn y cartref, mwy na dwywaith y gost o gomisiynu llefydd mewn cartrefi preifat iddynt.
Yn dilyn y penderfyniad ni fydd mwy o bobl yn cael eu derbyn i'r cartref a bydd y trigolion sydd yno ar hyn o bryd yn derbyn cymorth a chefnogaeth i ddewis cartref newydd.
Straeon perthnasol
- 6 Mawrth 2014
- 4 Tachwedd 2013
- 4 Tachwedd 2013