'Argyfwng' y gwasanaeth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc

merch ifanc Image copyright PA
Image caption Mae rhai plant a phobl ifanc wedi bod yn cael eu rhoi, yn amhriodol, ar wardiau iechyd meddwl i oedolion, yn ôl adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Mae arbenigwyr wedi dweud wrth BBC Cymru fod y gwasanaeth ar gyfer plant a phobol ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru mewn argyfwng.

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddwydd adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru oedd yn dweud fod rhai plant a phobol ifanc yn cael eu rhoi ar wardiau iechyd meddwl i oedolion - a nad oedd hynny'n briodol.

Mae Dr Elspeth Webb, arbenigwr ar iechyd plant ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dweud bod pobl dda iawn yn gweithio yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) ond eu bod yn ddioddef o ddiffyg adnoddau, gyda llai na hanner y staff sy'n cael ei argymell gan ganllawiau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwadu'r honiadau bod y gwasanaeth mewn argyfwng, ond yn cydnabod fod problem efo'r rhestrau aros.

Dywedodd Dr Webb y byddai gwario arian rwan ar CAMHS yn arbed problemau cymdeithasol mwy yn y dyfodol.

Yn cefnogi ei barn, mae'r Dr Mair Edwards, sy'n seicolegydd clinigol yn y gogledd, sy'n trin plant yn breifat.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dywedodd, mae llif cyson o rieni wedi bod yn cysylltu â hi, yn bryderus bod eu plant yn treulio gormod o amser ar y rhestrau aros i gael triniaeth, tra bod eu cyflwr yn gwaethygu.

Pryderon yn 2009 heb eu datrys o hyd

Roedd adroddiad mis Rhagfyr gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn dweud nad oedd pryderon ynglŷn â diogelwch, gafodd eu codi yn 2009, wedi cael eu trin.

Yn ôl yr adroddiad, mae pobl broffesiynol ym maes iechyd yn methu rhannu gwybodaeth ac ymateb i'w cyfrifoldebau i amddiffyn.

Roedd yr adroddiad hefyd yn codi pryderon am gleifion oedd yn cael eu rhyddhau o'u triniaeth.

Llywodraeth Cymru oedd y llywodraeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael strategaeth genedlaethol ar gyfer gwasanaeth iechyd meddwl plant a phobl ifanc, a hynny yn 2001.

Mae wedi cyflwyno sawl cynllun, fframweithiau a chyfraith ers hynny.

Gwasanaeth heb wella'n ymarferol

Fodd bynnag, mae Elin Jones, cadeirydd elusen Hafal, sy'n cynrychioli pobl gyda salwch meddwl difrifol ar draws Cymru, yn dweud nad ydi'r gwasanaeth i bobl ifanc wedi gwella'n sylweddol dros yr 20 mlynedd ddiwethaf.

"Mae system ddeddfu dda iawn gyda ni... ond mae angen newid y ffordd mae pobl yn gweithio, fel mae nhw'n gweithredu'r polisiau yna."

"Dydy pethau ddim wedi gwella yn ymarferol. Mae angen newid agweddau cymdeithas ond hefyd agweddau tuag at gydweithredu - efo gweithwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol. Dylai'r claf fod yn ganolog i'r gyfundrefn a'r help sydd ar gael."

Mae Elin Jones yn teimlo bod angen gwell cydweithio a chynllunio er mwyn bod yn barod am achosion a sichrau nad oes cleifion ifanc yn cael eu rhoi ar wardiau amhriodol neu mewn carchardai dros nos.

"Yn achos pobl ifanc fydd yn mynd yn dost yn sydyn ac yn ddifriol wael... yn aml iawn, yr unig llefydd diogel yw llefydd diogel sydd yn gwbl amhriodol megis celloedd mewn gorsafoedd yr heddlu neu wardiau ysbytai oedolion fel rheol. Mae hynny yn codi oherwydd bod crisis yn digwydd.

"Os nag y'n ni yn cynllunio ymlaen ac yn cydweithredu, y'n ni ddim yn mynd i fod gyda'r adnoddau i gwrdd â'r angen pan mae'r angen yn codi, ac o ganlyniad ry'n ni'n gorfod ffeindio rhywle.

"Ry'n ni'n ymladd tân trwy'r amser, yn lle paratoi ar gyfer yr hyn ry'n ni'n gwybod sydd yn debyg o ddigwydd, sef tân rhywbryd."

Llywodraeth wedi cynyddu cyllid CAMHS

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi cynyddu'r nawdd ar gyfer gwasanaethau CAMHS yng Nghymru - ym mis Hydref, roedd y gweinidog iechyd wedi cyhoeddi bod £250,000 ychwanegol ar gael yn flynyddol, er mwyn sicrhau gofal i fwy o bobl ifanc yng Nghymru, a lleihau'r angen am leoliadau y tu-allan-i'r-dalgylch.

"Mae'r gweinidog hefyd wedi bod yn glir y dylai'r arbedion o leihau lleoliadau allan-o-ddalgylch gael eu hail-fuddsoddi mewn gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i blant a phobl ifanc.

"Mae'r Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru), ddaeth i rym yn 2012, yn caniatau i dipyn mwy o gleifion gael eu gweld o fewn gofal sylfaenol, gan olygu bod gwasanaethau CAMHS yn gallu canolbwyntio ar drin yr achosion mwyaf dwys. Fe gafodd £3.5m ei fuddsoddi yn y gwasanaeth newydd hwn ac mae dros 30,000 o bobl wedi cael eu hasesu, hyd at Ragfyr 2013."

Mae Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc y Cynulliad yn ymchwilio i'r gwasanaethau ar hyn o bryd, ac mae disgwyl iddyn nhw ymateb yn y misoedd nesaf.

Yn ôl Elin Jones, Cadeirydd Hafal, "Mae'n galonogol bod y llywodraeth wedi amddiffyn yr arian... Ond dy'n ni ddim yn gwybod sut mae'r arian yn cael ei wario yn aml iawn. Mae hwnna yn ofid i fi. Felly, wy'n meddwl bod angen llawer iawn mwy o dryloywder ynglyn â gwariant yr arian sy'n cael ei neilltuo ar gyfer afiechyd meddwl."

Straeon perthnasol