Eich cyngor, eich arian: Manylion y toriadau

Cyhoeddwyd

Mae treth cyngor yng Nghymru wedi codi 4.2% ar gyfartaledd.

Cyhoeddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Lesley Griffiths, nôl ym mis Hydref y byddai cynghorau'n derbyn £182 miliwn yn llai rhyngddynt ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

Mae hyn yn cynrychioli toriad ariannol o 3.91%.

Ond mae hyn yn codi i 5.81% mewn termau real, pan mae effeithiau chwyddiant yn cael ei ystyried.

Bellach mae pob cyngor wedi cytuno ar gyllideb, gyda phob un yn codi treth cyngor rhwng 3% a 5%.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol