Llandysul: Cyhuddo dyn o lofruddiaeth

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun, Cafwyd hyd i gorff Patricia Anne Durrant ddydd Llun

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod wedi cyhuddo dyn 59 oed o lofruddiaeth.

Cafodd y dyn ei arestio yn dilyn marwolaeth Patricia Durrant, oedd yn 65 oed, yn Llandysul ddydd Llun.

Fe fydd y dyn yn ymddangos gerbron ynadon Hwlffordd fore Gwener, Mawrth 7.

Hefyd ddydd Gwener fe fydd Uwch Grwner Ceredigion yn agor cwest i farwolaeth Ms Durrant yn Aberystwyth.