Ystyried ffyrdd o hybu'r iaith Gymraeg yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Caerdydd wedi trefnu cynhadledd arbennig ddydd Iau i ystyried ffyrdd o hybu a gwarchod yr iaith yn y ddinas.
Ymhlith y siaradwyr yn Neuadd y Ddinas am 10yb mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, a Chomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.
Nod y gynhadledd yw ymgynghori er mwyn llunio cynllun gweithredu er mwyn meithrin yr iaith yng Nghaerdydd.
Gwahoddwyd cynrychiolwyr o dros 40 o sefydliadau i gyfrannu at y digwyddiad gan gynnwys Amgueddfeydd ac Orielau Cymru, S4C, Menter Caerdydd a sefydliadau addysg bellach ac uwch yng Nghymru.
Dywedodd Carwyn Jones: "Rwy'n falch fod Caerdydd yn cymryd rôl actif o ran gweithio â phobl i warchod a hyrwyddo'r iaith yn ein prifddinas.
"Mae'n un o'r ardaloedd sydd wedi gweld cynnydd o ran nifer y siaradwyr Cymraeg yn y blynyddoedd diweddar ac mae'n esiampl wych i awdurdodau lleol eraill.
"Mae'n bwysig bod pawb yn cael cyfle i ddefnyddio'r iaith Gymraeg ym mhob agwedd o'u bywydau.
"Mae gennym ni i gyd rôl i'w chwarae o ran sicrhau bod hyn yn digwydd ac mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn chwarae rhan holl bwysig o ran sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn parhau i ffynnu."