Bangor 2 - 4 Airbus UK Brychdyn

Gêm llawn goliau yn Nantporth nos Fawrth wrth i'r ymwelwyr, Airbus UK Brychdyn, hedfan i ffwrdd gyda'r pwyntiau yn erbyn Bangor.

Ac am y trydedd tro y tymor yma, mae Airbus wedi dychwelyd gartref ar hyd yr A55 yn hapus gyda buddugoliaeth arall.

Rhoddodd gôl gynnar Andy Jones yr ymwelwyr ar ben ffordd.

Dyblwyd eu mantais gan Ryan Wignall hanner ffordd drwy'r cyfnod cyntaf cyn i Steve Jones ei gwneud hi'n dair cyn yr egwyl.

Ychydig cyn y drydedd gôl, bu'n rhaid i Fangor eilyddio eu gôl-geidwad gyda Nick Bould yn cymryd lle Jack Cudworth oedd wedi'i anafu.

Talcen Steve Abbott wnaeth hi'n bedair gôl wedi deng munud o'r ail hanner.

Doedd goliau Jay Colbeck ac Anthony Miley ddim yn ddigon i dynnu'r sglein oddi ar berfformiad campus tîm Andy Preece a gorffenodd Bangor gyda 10 dyn yn unig ar y cae.

Roedd Colbeck cael ei ddanfon o'r cau wedi iddo dderbyn ei ail gerdyn melyn o'r noson.