M4 yn parhau i fod yn brysur
- Cyhoeddwyd
Mae traffig ar yr M4 yn parhau i fod yn brysur rhwng cyffordd 24 Coldra a chyffordd 23A Magwyr.
Yn gynharach buodd y gwasanaethau brys yn deilio gyda sefyllfa wedi gwrthdrawiad rhwng tri o gerbydau yn gynharach.
Roedd un person wedi'i anafu ac wedi cael ei rhyddhau o un o'r cerbydau.
Mae'n debyg bod y ciw o draffig yn 11 milltir o hyd ar un cyfnod, ond mae'r sefyllfa'n well erbyn hyn.