Caerdydd 0-4 Hull

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Reuters

Cael cweir go iawn wnaeth Caerdydd yn erbyn Hull, tîm sydd hefyd yn ngwaelodion yr Uwchgynghrair.

Tom Huddlestone sgoriodd gynta', gyda chymorth gan Jake Livermore.

Er i Gaerdydd ymosod gyda Jones, Fraizer a Campbell yn agos at benio'r bêl i'r rhwyd, aeth yr ymwelwyr ymlaen i rwydo am yr eildro.

Shane Long basiodd y bêl i Nikica Jelavic er mwyn sicrhau'r gôl. Roedd hon yn enghraifft o gyd-chwarae da rhwng y ddau flaenwr newydd.

Doedd y cefnogwyr ddim yn hapus ar ddiwedd yr hanner cyntaf ond mi aeth pethau o ddrwg i waeth yn yr ail hanner.

Mi ddaeth na gôl arall i Jelavic gan wneud y sgor yn 3-0 i Hull. Mi oedd cefnogwyr Caerdydd wedi dechrau gadael ar ol y gôl yma ond mi aeth 'na fwy wedi i Livermore rhwydo'r bedwaredd.

Roedd rheolwr Caerdydd, Solskjaer, yn siomedig gyda'r canlyniad.

Mae hyn yn gadael yr Adar Gleision mewn sefyllfa fregus yn y gwaelodion.