Gohirio trawsnewid gwesty yn Aber
- Cyhoeddwyd

Mae cynlluniau i drawsnewid adeilad gwag yn westy 63 llofft ar bromenâd Aberystwyth wedi cael eu gohirio yn sgil y stormydd diweddar.
Mae'r datblygwyr Opus North wedi penderfynu tynnu eu cais cynllunio i drawsnewid hen westy'r Bay yn westy Premier Inn yn ôl am y tro.
Dywedodd y cwmni eu bod eisiau "pwyso a mesur" y sefyllfa.
Ond mae nhw'n dweud eu bod am ail gyflwyno'u cais o fewn y deufis nesaf.
Fe gafodd y promenâd yn Aberystwyth ei daro'n ddrwg gan stormydd ym mis Ionawr gan achosi difrod sydd wedi costio £150,000 hyd yma i'w atgyweirio.
Yn ôl llefarydd Opus North: "Rydym wedi penderfynu tynnu ein cais cynllunio'n ôl am y tro, am ein bod eisiau pwyso a mesur y sefyllfa a sicrhau ein bod yn gallu ail edrych ar y cynllun i atal llifogydd."
"Rydym yn gobeithio ail gyflwyno'r cais o fewn y deufis nesaf."
Mae'r cwmni, sydd wedi'i sefydlu yn Swydd Efrog, yn bwriadu prynu'r adeilad oddi wrth Gyngor Ceredigion ar yr amod bod y cynlluniau i adeiladu gwesty a bwyty yn cael eu cymeradwyo.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor bod Opus North angen mwy o amser i asesu effaith y stormydd ar yr eiddo ac ar unrhyw gynlluniau roedd ganddyn nhw ar gyfer y dyfodol.
Mi fyddai'r datblygiad newydd yn creu 25 o swyddi newydd, yn ôl Nick Johnson, rheolwr caffael Gwestai a Bwytai Whitbread.
"Rydym yn rhagweld y bydd y cais newydd yn cael ei gyflwyno yn y Gwanwyn, ac, os y caiff ei gymeradwyo, bydd y gwesty yn agor i'r cyhoedd yn gynnar y flwyddyn nesaf."
Mae'r gwesty, oedd yn wreiddiol yn Westy'r Bay Hotel, wedi bod yn wag ers 2009.
Straeon perthnasol
- 11 Ionawr 2014
- 13 Chwefror 2014
- 3 Ionawr 2014
- 4 Tachwedd 2013