Pro12: Leinster 31-19 Dreigiau Casnewydd Gwent

Netani Talei yn herio cefnwyr Leinster Image copyright Inpho

Mae'r Dreigiau wedi colli 31-19 yn erbyn Leinster, a phwynt bonws yn golygu bod Leinster yn cymryd lle Munster ar frig y Pro12.

Jack McGrath roddodd Leinster ar y blaen 10-3, ond daeth y Dreigiau'n ôl gyda dau gais gan Ashley Smith a Richie Rees ar ddechrau'r ail hanner.

Cafodd y Dreigiau eu cosbi am nifer o droseddau, a chafodd y prop Nathan Buck ei anfon i'r gell gosb wedi 33 munud.

Fe adawodd wythwyr y Dreigiau, Nick Cudd, y cae gydag anaf - Jevon Groves ddaeth yn ei le.

Cafodd Leinster ddau gais gosb, a chafodd eilydd y Dreigiau Francisco Chaparro ei anfon o'r cae yn y funud ola' wedi tacl beryglus.

Darren Hudson groesodd y llinell am gais i sicrhau pwynt bonws i Leinster.

TIMAU

Leinster: Kirchner, McFadden, Macken, Reid, Fanning, Madigan, Reddan, J. McGrath, Cronin, Moore, Cullen, McCarthy, Ruddock, Jennings, Murphy.

Eilyddion: Gopperth am Reid (61), Boss am Reddan (48), Bent am J. McGrath (68), Dundon am Cronin (72), Furlong am Moore (68), Denton am McCarthy (61), Ryan am Jennings (53), Hudson am Boss (80).

Dreigiau: Amos, Pewther, Leach, A. Smith, Harries, Tovey, Rees, O. Evans, Thomas, Buck, Hill, Sidoli, L. Evans, Cudd, Talei.

Eilyddion: S. Jones am Amos (72), Wardle am A. Smith (53), W. Evans am Rees (58), Coundley am O. Evans (65), Parry am Thomas (59), Chaparro am Buck (58), Screech am Sidoli (58), Groves am Talei (33).

Cell gosb: Buck (33), Groves (58)

Cerdyn coch: Chaparro (80)