Cyhuddo gyrrwr lori o yrru'n ddiofal ar Bont Britannia

Pont Britannia ar gau
Image caption Roedd y lon sy'n arwain at y bont dipyn yn ddistawach na'r arfer am 8:00am fore Iau

Mae heddlu wedi cyhuddo gyrrwr o yrru'n ddiofal, wedi i lori droi ar ei hochr ar Bont Britannia brynhawn dydd Mercher.

Roedd rhybudd mewn grym yn gwahardd cerbydau uchel rhag teithio ar y bont, oherwydd y gwyntoedd cryfion.

Bu'r bont ynghau tan ganol bore Iau yn dilyn y digwyddiad, gan achosi tagfeydd yn ardal Bangor a Phorthaethwy.

Bydd Igor Kolarik, sy'n 51 oed ac yn dod o Slofacia, yn ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon fore Gwener.